Wrth i ni i gyd ddod i’r arfer efo ffyrdd newydd o fyw a gweithio, a llai o gyswllt agos gyda’n teulu, cymdogion a’n ffrindiau, rydym ni’n gofyn i bawb fod yn fwy gwyliadwrus o sgamiau.
Gall sgam fod ar ffurf e-bost, neges destun, galwad ffôn neu gnoc ar y drws. Ond mi fydd gan bob un rywbeth yn gyffredin – mi fyddan nhw’n gofyn am bres naill ai drwy gymryd manylion banc neu arian parod.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Felly cofiwch, dim ots pa mor ddeniadol ydi’r cynnig, cyn i chi wneud unrhyw beth gofynnwch i chi’ch hun “ai sgam ydi hwn?”
Ydych chi wedi clywed gan yr unigolyn, cwmni neu’r ffynhonnell yma sy’n ymddangos yn ddilys?
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n delio gyda chwmnïau rydych chi’n eu hadnabod a pheidiwch ag ymateb i unrhyw un sy’n cynnig unrhyw beth yn ymwneud â COVID-19, nac unrhyw wasanaeth arall nad ydych chi wedi’i archebu, pa unai yw ar ffurf e-bost, galwad ffôn neu gnoc ar y drws.
Os ydych chi’n ansicr, ffoniwch aelod o’ch teulu, ffrind neu gymydog i dderbyn cyngor.
Ai sgam ydi hwn?
Peidiwch byth â datgelu’ch manylion personol na manylion banc/cerdyn os ydych chi’n ansicr. A chofiwch, yn enwedig yn y cyfnod ansicr yma, ein bod ni i gyd yn darged i dwyll mewn rhyw ffordd neu’i gilydd ac felly cymerwch fwy o ofal a gofynnwch i chi’ch hun “ai sgam ydi hwn?”
Mae Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth wedi diweddaru eu tudalennau ymwybyddiaeth o dwyll gyda chyngor ar sgamiau yn ymwneud â COVID-19. Gallwch wirio a ydi rhywbeth yn sgam neu beth i’w wneud os ydych chi neu rywun rydych chi’n adnabod wedi’ch twyllo. Dyma’r ddolen i’r dudalen:
https://www.citizensadvice.org.uk/consumer/scams/check-if-something-might-be-a-scam/
Os hoffech chi gyngor ar sgamiau neu roi gwybod am sgam, ffoniwch Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133. Maen nhw hefyd yn fwy na pharod i ddarparu cyngor cyffredinol i ddefnyddwyr.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19