Ganed George Houghland tua 1896, yr hynaf o bump o blant a aned i George yr hynaf a’i wraig Mary. Roeddent yn byw yn 27 Offa Terrace, Wrecsam.
Yng nghyfrifiad 1911, roedd yn gweithio fel negesydd brethynnwr ac roedd ei dad yn löwr. Ymunodd â’r Fyddin Diriogaethol ar 1 Hydref 1914.
Roedd yn 19 mlwydd ac 1 mis oed, 5’5” o ran taldra gyda brest 31” a golwg da. Cafodd llawer o’r 4ydd Bataliwn eu recriwtio o lofeydd Gogledd Cymru.
Glaniodd George yn Ffrainc gyda’r Fyddin Ymgyrchol Brydeinig ar 20 Chwefror 1915. Roedd amodau yn y ffosydd o amgylch ardal Festubert yn wael iawn oherwydd cyfnod o law trwm iawn.
Yn mis Mai, roedd ei fataliwn yn rhan o ymosodiadau ar safleoedd yr Almaen ar Aubers Ridge gan ddioddef llawer o golledion.
Ar ôl cyfnodau ar y rheng flaen, ffurfiwyd y bataliwn yn uned arloeswyr a oedd yn defnyddio profiad cloddio’r glowyr i’r budd mwyaf wrth gloddio ffosydd.
Cyn hir, galwyd ar y 4ydd Bataliwn eto i fod yn rhan o frwydr Loos.
Yn ystod y gweithrediadau hyn yr adroddwyd bod George wedi anafu mewn brwydr ar 4 Hydref 1915 a bu farw o’i anafiadau y diwrnod canlynol.
Caiff ei gofio gydag anrhydedd ym Mynwent Gyffredin Sailly Labourse yn Ffrainc. Cafodd Seren 1914-15, medal Gwasanaeth Prydain a medal Fuddugoliaeth.
Dyma un o nifer o hanesion a gaiff eu harddangos ar hyn o bryd yn Amgueddfa Wrecsam fel rhan o arddangosfa Wrecsam yn eu Cofio.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Wrecsam yn eu Cofio, ewch i gael golwg ar ein herthygl yr wythnos diwethaf.
Bydd y Gwasanaeth Coffa yn arbennig iawn eleni gan y byddwn yn coffáu 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cynhelir y Gwasanaeth ger Cofeb y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Modhyfryd ddydd Sul, 11 Tachwedd am 10.55am.
LAWRLWYTHO’R GORCHYMYN GWASANAETH