Mae tua 500,000 o sigaréts, 40Kg o dybaco gaiff ei rholio â llaw a bron i 1,000 o e-sigaréts anghyfreithlon wedi’u hatafaelu o siopau a lleoliadau storio yn dilyn cyrchoedd mewn lleoliadau ar draws Sir y Fflint a Wrecsam.
Bu Swyddogion o’r Safonau Masnach, Gorfodaeth Mewnfudo, y Swyddfa Eiddo Deallusol a Heddlu Gogledd Cymru’n rhan o’r cyrchoedd, wedi’u cefnogi gan gŵn synhwyro tybaco o WagtailUK.
Darganfuwyd yr atafaeliad unigol mwyaf o tua 500,000 o sigaréts wedi’u storio mewn tŷ preifat yn y Fflint. Daethpwyd o hyd i feintiau llai o dybaco a hefyd e-sigaréts tafladwy anghyfreithlon mewn siopau yn Wrecsam ac ar draws Sir y Fflint.
Meddai Richard Powell, Rheolwr Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r atafaeliad mawr hwn o dŷ preifat yn y sir yn sylweddol. Bydd wedi bod yn storfa ganolog i’w ddosbarthu i nifer o fannau gwerthu ledled y sir ac ymhell y tu hwnt, a bydd colli’r swm hwn o dybaco yn cael effaith ar argaeledd cynnyrch anghyfreithlon.
“Mae’n hynod bwysig ein bod yn rheoli’r farchnad dybaco anghyfreithlon ac mae canlyniadau’r cyrchoedd hyn yn dangos pa mor effeithiol y gall gweithrediadau ar y cyd fod. Mae tybaco anghyfreithlon yn cael ei ddosbarthu a’i gyflenwi trwy rwydweithiau troseddol trefniadol. Mae hyn yn aml yn gysylltiedig â gweithgarwch troseddol arall ac yn dod â throseddau i’n cymunedau lleol.
“Yn ogystal â’r swm mawr o dybaco anghyfreithlon a gafodd ei ddarganfod, atafaelodd swyddogion gynnyrch e-sigaréts anghyfreithlon, dros £10,000 mewn arian parod a nifer o liniaduron a ffonau.”
Meddai Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach gyda CBS Wrecsam a Swyddog Arweiniol Tybaco i Safonau Masnach Cymru: “Mae ysmygu’n lladd dros 5,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn a bydd hanner yr holl ysmygwyr hirdymor yn marw o ganlyniad uniongyrchol i’w drwgarfer.
“Tybaco anghyfreithlon yw sigaréts neu dybaco rholio sydd wedi’i smyglo a lle nad oes unrhyw dollau wedi’u talu arno. Mae hyn yn golygu ei fod yn gallu cael ei werthu am lai na hanner pris tybaco y telir llog arno’n gyfreithlon, gan greu problem sylweddol yn ein cymunedau. Mae’n ei gwneud hi’n llawer haws i blant gael gafael ar dybaco a mynd yn gaeth iddo drwy gydol eu hoes, yn ogystal â’i gwneud hi’n llawer anoddach i ysmygwyr presennol roi’r gorau iddi.”
Mae’r ymchwiliadau’n parhau.
Mae tybaco anghyfreithlon yn niweidio cymunedau fel eich un chi. Os ydych chi’n gwybod unrhyw beth am sigaréts amheus yn eich ardal chi, rhowch wybod i ni. Gallwch adrodd yn gyfrinachol yn DIM ESGUS. BYTH.
Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.