Drwy gydol y gwyliau mae yna helfa cwningod ac wyau Pasg ar draws y fwrdeistref sirol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd allan i chwilio.
Drwy gydol y gwyliau – Helfa Cwningod Pasg yn Llyfrgell Wrecsam. Galwch yn Llyfrgell Wrecsam a dewch o hyd i’r cwningod yn cuddio yn llyfrgell y plant. Ffoniwch 01978 292090.
Dydd Mawrth, 27 Mawrth – Llwybr Cwningod Pasg ym Mharc Bellevue. 10am-12 canol dydd, cyfarfod yn y bandstand. Mae hwn yn lwybr am ddim i bob oed. Croesewir rhoddion i Gyfeillion Parc Bellevue Ffoniwch 01978 763140.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Dydd Mercher, 28 Mawrth – Llwybr Pasg yn Nyfroedd Alyn. Dilynwch y llwybr i ennill gwobr. 10.30am-3.30pm, £2.50 fesul plentyn, addas i bob oedran. Digwyddiad galw heibio a ddylai gymryd awr i’w gwblhau. Ffoniwch 01978 763140.
Dydd Iau, 29 Mawrth – Llwybr Wy Pasg ym Mharc Acton. Dewch draw rhwng 1pm-3pm ac ymunwch ar y llwybr llawn hwyl, am ddim hwn o amgylch y parc. Cysylltwch â countryparks@wrexham.gov.uk.
Dydd Sul, 1 Ebrill – Llwybr Pasg ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr. Dewch i ddatrys y cliwiau i ddod o hyd i’ch ffordd o amgylch y llwybr. Dechrau am 3pm ac addas i bob oed. £2.50. Ffoniwch 01978 763140.
Daliwch i glicio ar news.wrexham.gov.uk am fwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol gwyliau’r Pasg.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU