Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Help gyda chostau gofal plant dros wyliau’r haf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Help gyda chostau gofal plant dros wyliau’r haf
ArallPobl a lle

Help gyda chostau gofal plant dros wyliau’r haf

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 29, 2022 4:25 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
HMRC
RHANNU

Erthyl Gwadd: CThEM

Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn atgoffa miloedd o rieni a theuluoedd yng Nghymru i beidio â cholli allan ar gymorth ariannol a all helpu i dalu am ofal plant yn ystod gwyliau’r haf.

Trwy’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, gall teuluoedd gael hyd at £2,000 y flwyddyn ar gyfer pob plentyn – neu £4,000 os yw eu plentyn yn anabl – i’w roi tuag at gost gofal plant. Mae ar gael ar gyfer plant hyd at 11 oed, neu 17 oed os oes gan y plentyn anabledd. Gall yr arian helpu tuag at gost clybiau gwyliau, clybiau cyn ac ar ôl ysgol, gwarchodwyr plant a meithrinfeydd, a chynlluniau gofal plant eraill sydd wedi’u cymeradwyo.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Bydd y llywodraeth yn talu 20% o gostau gofal plant drwy ychwanegu at yr arian a delir i mewn i gyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth. Mae hyn yn golygu am bob £8 a delir i mewn i’r cyfrif ar-lein, bydd teuluoedd yn cael taliad atodol o £2 gan y llywodraeth.

Ym mis Mawrth 2022 defnyddiodd mwy na 13,575 o deuluoedd yng Nghymru y cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth – y nifer uchaf o deuluoedd a gofnodwyd yn defnyddio’r cynllun ers ei lansio ym mis Ebrill 2017 – ond mae’n bosibl bod miloedd mwy yn colli allan. Mae ymchwil a gyhoeddwyd yn gynharach eleni gan CThEM yn amcangyfrif y gallai tua 1.3 miliwn o deuluoedd fod yn gymwys ar gyfer y cymorth hwn gan y llywodraeth.

Mae rhieni a gofalwyr yn cael eu hannog i ddysgu rhagor am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth drwy’r wefan Dewisiadau Gofal Plant.

Dywedodd Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid, “Gall Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth wneud gwahaniaeth mawr i deuluoedd, gan helpu gyda’r biliau ar gyfer pethau fel clybiau gwyliau, meithrinfeydd, gwarchodwyr plant a chlybiau ar ôl ysgol. Mae’n hawdd cofrestru – chwiliwch am ‘Tax-free Childcare’ ar GOV.UK.”

Dywedodd Helen Whately, Ysgrifennydd Siecr y Trysorlys, Trysorlys EM. “Mae Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn helpu teuluoedd gyda chost biliau gofal plant ond rydym yn gwybod y gallai miloedd o rieni fod yn colli allan.

“Dyna pam rwy’n annog teuluoedd i gofrestru nawr ac arbed costau gofal plant.

“Mae yna lawer o glybiau gwyliau a darparwyr gofal plant gwych i helpu rhieni sy’n gweithio yn ystod gwyliau’r haf sydd i ddod, felly nawr yw’r amser i fanteisio ar y cymorth hwn.”

I filoedd o deuluoedd sy’n defnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, mae’r arian y maent yn ei arbed bob mis ar eu costau gofal plant yn arian sy’n mynd yn syth yn ôl i’w pocedi. Gellir agor cyfrifon ar unrhyw adeg o’r flwyddyn a gellir eu defnyddio ar unwaith. Mae modd rhoi arian ynddo ar unrhyw adeg a’i ddefnyddio yn ôl yr angen. Gellir codi unrhyw arian sydd wedi’i dalu i mewn ac sydd heb ei ddefnyddio, ar unrhyw adeg.

Mae Caroline o Portsmouth yn defnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth i helpu i dalu am glybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau ei phlant. Yma mae hi’n esbonio pam ei bod yn ei ddefnyddio. Dywedodd Caroline:

“Rwy’n fam sy’n gweithio, rwy’n brysur ac mae gen i ddau o blant. I mi, mae Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn hawdd ac yn ddidrafferth i’w ddefnyddio. Rwy’n mynd ar y system bob mis ac yn gosod y swm sydd ei angen arnaf er mwyn talu’r darparwr gofal plant. Mae’r cymorth ariannol yn bendant yn helpu ond rydw i hefyd yn hoffi’r hyblygrwydd a sut mae Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn fy helpu i gyllidebu ar gyfer fy nghostau gofal plant.”

Gyda gwyliau haf yr ysgol yn agosáu, mae’n bwysicach nag erioed bod rhieni a gofalwyr yn gallu cael mynediad at y cymorth ariannol y maent yn gymwys i’w gael. Mae’n gallu lleihau eu costau, eu helpu i aros mewn gwaith, neu eu helpu i weithio mwy o oriau.

Mae gan fwy na miliwn o deuluoedd yn y DU hawl i ryw fath o gymorth gofal plant gan y llywodraeth ac mae’r llywodraeth yn annog y rhai sy’n gymwys i beidio â cholli allan ar yr hyn y mae ganddynt hawl iddo. Gall teuluoedd gael gwybod am ba cymorth gyda gofal plant sydd orau iddynt drwy’r wefan Dewisiadau Gofal Plant.

Er mwyn sicrhau bod rhieni’n cael y cymorth gofal plant y mae ganddynt hawl iddo, mae’r llywodraeth yn lansio ymgyrch codi ymwybyddiaeth yr wythnos hon.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ty Pawb Open GALWAD AGORED: Cyflwynwch eich gweithiau celf ar gyfer Arddangosfa Argoed Tŷ Pawb
Erthygl nesaf Football Museum £45,000 yn cael ei roi i ddatblygu Amgueddfa Bêl-droed yn Wrecsam ⚽

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English