Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Helpwch i wella gofal dementia yn Wrecsam – dweud eich dweud!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Helpwch i wella gofal dementia yn Wrecsam – dweud eich dweud!
Y cyngorPobl a lle

Helpwch i wella gofal dementia yn Wrecsam – dweud eich dweud!

Diweddarwyd diwethaf: 2023/09/12 at 12:11 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham Dementia Community Listening Campaign
RHANNU

Gofynnir i breswylwyr helpu i ffurfio dyfodol gofal dementia trwy gymryd rhan yn Ymgyrch Wrando Gymunedol Wrecsam, ac mae cyfle tan ddiwedd mis Hydref i chi ddweud eich dweud a gwneud gwahaniaeth.

Mae’r ymgyrch yn rhan o brosiect ehangach Cymru’n Gwrando a gaiff ei gefnogi gan Gwelliant Cymru a Citizens UK, ac mae ambell ffordd wahanol o gymryd rhan.

Arolwg gwrando

I ddechrau, gallwch helpu trwy lenwi’r arolwg gwrando, sy’n fyw tan 31 Hydref. Dim ond tua 10 munud mae’n ei gymryd i lenwi’r arolwg ac mae’n gofyn am eich barn am nifer o bethau sy’n ymwneud â gofal dementia, gan gynnwys ‘beth yw gofal dementia da?’ a ‘beth ddylai fod ar gael i bobl sy’n byw gyda dementia yn y gymuned hon?’.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae gwella gofal dementia yn fater i bawb, felly rhowch o’ch amser os gallwch.

LLENWCH YR AROLWG GWRANDO RŴAN

Digwyddiad Hwb Lles

Ffordd arall o gymryd rhan yw archebu eich lle i ymweld â’r Hwb Lles rhwng 10am a 3pm ddydd Iau, 12 Hydref, 2023.

Bydd y digwyddiad yn galluogi pobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr di-dâl sy’n cefnogi pobl i fyw gyda dementia, gweithwyr proffesiynol a grwpiau/ sefydliadau cefnogi i ddod ynghyd mewn un lle i drafod pa fath o gefnogaeth dementia sydd ar gael o amgylch Wrecsam a thrafod pa gefnogaeth arall sydd ei hangen.

Bydd gan weithwyr proffesiynol o faes iechyd a gofal cymdeithasol, staff o BIPBC, elusennau a grwpiau a sefydliadau cefnogaeth lleol eu stondinau unigol eu hunain er mwyn i chi drafod eich anghenion a siarad am unrhyw beth sy’n ymwneud yn benodol â dementia yr hoffech siarad amdano’n bersonol.

Helpwch i wella gofal dementia yn Wrecsam – dweud eich dweud!

Bydd cyflwyniad am ddementia hefyd a byddwch chi’n cael clywed siaradwyr o amryw leoliadau.

Darperir te a choffi. Gallwch archebu eich lle trwy Eventbrite.

ARCHEBWCH EICH LLE RŴAN

Methu dod ar 12 Hydref?

Os na allwch chi ddod i’r Hwb Lles ar 12 Hydref ond yn awyddus i siarad â rhywun yn bersonol, peidiwch â phoeni, bydd ein Cydlynydd Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn ymweld â nifer benodol o leoliadau ar draws Wrecsam i gasglu adborth yn y gymuned.

Y dyddiadau sydd wedi’u cadarnhau hyd yma yw:

  • Dydd Mercher 13 Medi, 10am-3pm – Neuadd Blwyf y Waun, y Waun LL14 5NA
  • Dydd Mawrth 19 Medi, 10am-11.30am – Neuadd Goffa Ymddiriedolaeth Cofeb Ryfel Gresffordd a’r Cyffiniau, oddi ar Stryd Fawr Gresffordd, LL12 8PS
  • Dydd Iau Medi 21, 10am-12pm – Hen Llyfrgell Carnegie (hen ystafell llyfrgell) 17 Ffordd y Parc, Coedpoeth, LL11 3TD
  • Dydd Gwener 6 Hydref, 10am-12pm – Llyfrgell y Rhos, Ffordd y Tywysog, Rhosllanerchrugog, LL14 1AB

Mae dyddiadau pellach wrthi’n cael eu trefnu, ond byddwn yn rhannu’r manylion gyda chi cyn gynted ag sy’n bosibl.

“Mae eich barn yn wirioneddol bwysig”

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae dementia’n effeithio ar gymaint o bobl a’u teuluoedd mewn gymaint o wahanol ffyrdd. Mae siarad gyda phobl eraill a rhannu’r profiadau hyn yn ein helpu nid yn unig i ddatblygu’r gefnogaeth sy’n bodoli eisoes, ond yn bwysig, mae’n gadael i ni weld pa gefnogaeth arall sydd ei hangen hefyd.

“Bydd Ymgyrch Wrando Gymunedol Wrecsam yn ein helpu i ganfod y pethau pwysig hyn, ac rydym am geisio casglu gymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl i helpu i wella gofal dementia. Mae eich barn yn wirioneddol bwysig. Llenwch yr arolwg gwrando, ac os fedrwch chi, dewch i’r Hwb Lles ar 12 Hydref.”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Teigan Trawsnewid bywydau: o lety â chefnogaeth i fyw’n annibynnol
Erthygl nesaf Estyn Y diweddaraf ynglŷn â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin…

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle Awst 5, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 5, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Lucy Cowley
DigwyddiadauPobl a lle

Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni

Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 5, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English