Rydym yn agosáu at ein targed o ailgylchu 70 y cant o’n gwastraff – ac mae atal gwastraff bwyd yn rhan fawr o hynny.

Y llynedd, bu i ni gyrraedd 65 y cant, ac rydym yn ddiolchgar iawn i drigolion Wrecsam am eu cymorth i gyrraedd y pwynt yma.

Ond mae gennym ni dipyn o waith i’w wneud eto cyn i ni gyrraedd 70 y cant.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.

Byddai mynd i’r afael â gwastraff bwyd yn ein helpu i gyflawni’r pump y cant olaf yna.

Bagiau cadi

Yn gynharach eleni, bu i ni ddosbarthu nifer ychwanegol o fagiau gwastraff bwyd y gellir eu compostio  i dros 60,000 o gartrefi ledled y fwrdeistref sirol.

Gallwch ddefnyddio’r cadis ymyl palmant llwyd i ailgylchu bron bob gwastraff bwyd, gan gynnwys:

  • Ffrwythau a llysiau – amrwd ac wedi’u coginio
    • Cig a physgod – amrwd ac wedi’u coginio
    • Esgyrn a phlisgyn wy
    • Reis, pasta, grawnfwyd a nwdls
    • Bara, cacennau, teisennau crwst a bisgedi
    • Bagiau te a gwaddodion coffi
    • Caws, wyau ac iogwrt
    • Ffa, cnau, codlysiau a hadau
    • Sbarion bwyd oddi ar eich plât

“Helpwch ni i drechu’r rhwystr olaf”

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn hynod ddiolchgar i drigolion Wrecsam am y gwaith y maen nhw wedi’i wneud dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn ein helpu ni i gyrraedd ein cyfradd ailgylchu bresennol o 65 y cant.

“Mae angen ychydig o ymdrech eto i ni gyrraedd ein nod o 70 y cant, a bydd taflu gwastraff bwyd i’r bin ailgylchu yn hytrach na’r bin du yn ein helpu i drechu’r rhwystr olaf yna.”

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

COFIWCH EICH BINIAU