Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol Clywedog sydd wedi cystadlu yn rownd derfynol Her Cwadrennydd Raytheon yn ddiweddar.
Ar ôl diwrnod llawn o gystadlu roedden nhw’n fuddugol yng Nghymru ac yn bumed yn gyffredinol yn y DU – cyrhaeddiad anhygoel i’n pobl ifanc lleol.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Y ‘Quadcopter Challenge’ yw gweithgaredd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg blaenllaw Raytheon UK, gyda’r nod o hyrwyddo buddion addysg Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg mewn ysgolion ledled y DU.
Drwy fentoriaeth gan lysgenhadon Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg Raytheon UK, mae timau ysgolion yn cael profiad ymarferol o ddylunio, rheoli prosiectau, cyflwyniadau, technegau peirianneg ac aerodynameg. Maen nhw hefyd yn cael cipolwg ar gymwysiadau bywyd go iawn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Un ffordd yn unig yw hyn y mae Raytheon UK yn anelu at fynd i’r afael â’r angen cynyddol i lenwi arfaeth o dalent peirianneg ar gyfer dyfodol economi’r DU.
Dewiswyd thema 2019 Technoleg o Amgylch y Byd i dynnu sylw at bwysigrwydd cydweithredu byd-eang ar gyfer datblygu technoleg a rhannu syniadau. Gyda chefnogaeth llysgenhadon Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg Raytheon, mae myfyrwyr wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd ers wythnosau i adeiladu systemau aer pedair llafn, aml-rotor, wedi’u treialu o bell sy’n gallu llywio cyrsiau rhwystrau heriol.stems capable of navigating challenging obstacle courses.
“Gwaith rhagorol”
Meddai Damian McDonnell, Cydlynydd STEM ac athro gwyddoniaeth yn Ysgol Clywedog sydd wedi cefnogi’r disgyblion trwy gydol y gystadleuaeth: “Mae’r disgyblion wedi gwneud gwaith rhagorol ac wedi gweithio’n hynod o galed ac wedi llwyddo i gael canlyniad gwych. Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda nhw ac i weld eu hyder a’u brwdfrydedd yn tyfu wrth i’r gystadleuaeth fynd yn ei blaen. Da iawn pawb
“Cyflawniad Anferthol”
Dywedodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Rob Walsh, “Dylai pawb fod yn falch iawn o’i hunain. Mae cymryd rhan yn rownd derfynol cystadleuaeth mor uchel ei pharch yn gymaint o gyrhaeddiad ac mae’r canlyniadau yn dangos gymaint o dalent peirianneg sy’n dod i’r fei yma yn Wrecsam. Byddaf yn cyfarfod pawb sydd wedi bod yn rhan o’r fenter ym mis Rhagfyr a dwi methu aros i glywed am y gystadleuaeth a dyheadau’r bobl ifanc ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.W
Llun yn dangos o’r chwith i’r dde: Josh Gallagher, Llysgennad STEM, Raytheon, Damian McDonnell, Athro Gwyddoniaeth a Chydlynydd STEM, Leo Sowter, Cyd-beilot/Cyfathrebu, Jamie Sides, Peilot/Arweinydd y Prosiect, Tyler Rush, Peirianneg a Dylunio, Leo Wright, Peirianneg a Dylunio, ac Alan Jones, Llysgennad STEM, Raytheon
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN