Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
newyddion.wrecsam.gov.uk
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Her Cwadrennydd – Ysgol Clywedog yn Fuddugol yng Nghymru
Rhannu
Notification Show More
Latest News
Digital Screens
Cynnig Sgriniau Digidol i helpu busnesau gyda hysbysebu
Y cyngor Busnes ac addysg
Climate change
Nodi pum cymuned carbon isel
Pobl a lle Busnes ac addysg
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Y cyngor Pobl a lle
Illegal tobacco and cigarettes seized.
Hanner miliwn o sigaréts anghyfreithlon wedi’u hatafaelu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Arall
Wales in Bloom
Rydym yn paratoi ar gyfer Cymru yn ei Blodau
Y cyngor Busnes ac addysg Pobl a lle
newyddion.wrecsam.gov.uk
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - Dydd Sadwrn, Mehefin 10
newyddion.wrecsam.gov.uk > Blog > Busnes ac addysg > Her Cwadrennydd – Ysgol Clywedog yn Fuddugol yng Nghymru
Busnes ac addysgPobl a lle

Her Cwadrennydd – Ysgol Clywedog yn Fuddugol yng Nghymru

Diweddarwyd diwethaf: 2019/11/19 at 2:23 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Her Cwadrennydd – Ysgol Clywedog yn Fuddugol yng Nghymru
RHANNU

Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol Clywedog sydd wedi cystadlu yn rownd derfynol Her Cwadrennydd Raytheon yn ddiweddar.

Cynnwys
“Gwaith rhagorol”“Cyflawniad Anferthol”

Ar ôl diwrnod llawn o gystadlu roedden nhw’n fuddugol yng Nghymru ac yn bumed yn gyffredinol yn y DU – cyrhaeddiad anhygoel i’n pobl ifanc lleol.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Y ‘Quadcopter Challenge’ yw gweithgaredd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg blaenllaw Raytheon UK, gyda’r nod o hyrwyddo buddion addysg Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg mewn ysgolion ledled y DU.

- Cofrestru -
Get our top stories

Drwy fentoriaeth gan lysgenhadon Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg Raytheon UK, mae timau ysgolion yn cael profiad ymarferol o ddylunio, rheoli prosiectau, cyflwyniadau, technegau peirianneg ac aerodynameg. Maen nhw hefyd yn cael cipolwg ar gymwysiadau bywyd go iawn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Un ffordd yn unig yw hyn y mae Raytheon UK yn anelu at fynd i’r afael â’r angen cynyddol i lenwi arfaeth o dalent peirianneg ar gyfer dyfodol economi’r DU.

Dewiswyd thema 2019 Technoleg o Amgylch y Byd i dynnu sylw at bwysigrwydd cydweithredu byd-eang ar gyfer datblygu technoleg a rhannu syniadau. Gyda chefnogaeth llysgenhadon Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg Raytheon, mae myfyrwyr wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd ers wythnosau i adeiladu systemau aer pedair llafn, aml-rotor, wedi’u treialu o bell sy’n gallu llywio cyrsiau rhwystrau heriol.stems capable of navigating challenging obstacle courses.

“Gwaith rhagorol”

Meddai Damian McDonnell, Cydlynydd STEM ac athro gwyddoniaeth yn Ysgol Clywedog sydd wedi cefnogi’r disgyblion trwy gydol y gystadleuaeth: “Mae’r disgyblion wedi gwneud gwaith rhagorol ac wedi gweithio’n hynod o galed ac wedi llwyddo i gael canlyniad gwych. Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda nhw ac i weld eu hyder a’u brwdfrydedd yn tyfu wrth i’r gystadleuaeth fynd yn ei blaen. Da iawn pawb

“Cyflawniad Anferthol”

Dywedodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Rob Walsh, “Dylai pawb fod yn falch iawn o’i hunain. Mae cymryd rhan yn rownd derfynol cystadleuaeth mor uchel ei pharch yn gymaint o gyrhaeddiad ac mae’r canlyniadau yn dangos gymaint o dalent peirianneg sy’n dod i’r fei yma yn Wrecsam. Byddaf yn cyfarfod pawb sydd wedi bod yn rhan o’r fenter ym mis Rhagfyr a dwi methu aros i glywed am y gystadleuaeth a dyheadau’r bobl ifanc ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.W

Llun yn dangos o’r chwith i’r dde: Josh Gallagher, Llysgennad STEM, Raytheon, Damian McDonnell, Athro Gwyddoniaeth a Chydlynydd STEM, Leo Sowter, Cyd-beilot/Cyfathrebu, Jamie Sides, Peilot/Arweinydd y Prosiect, Tyler Rush, Peirianneg a Dylunio, Leo Wright, Peirianneg a Dylunio, ac Alan Jones, Llysgennad STEM, Raytheon

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

COFRESTRWCH FI RŴAN

Rhannu
Erthygl flaenorol green bin Nodyn atgoffa: casgliadau gwastraff gardd misol yn ystod y gaeaf
Erthygl nesaf Leisure Centres Rhagor o welliannau ar y ffordd ar gyfer cyfleusterau hamdden yn Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digital Screens
Cynnig Sgriniau Digidol i helpu busnesau gyda hysbysebu
Y cyngor Busnes ac addysg Mehefin 8, 2023
Climate change
Nodi pum cymuned carbon isel
Pobl a lle Busnes ac addysg Mehefin 8, 2023
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Y cyngor Pobl a lle Mehefin 8, 2023
Illegal tobacco and cigarettes seized.
Hanner miliwn o sigaréts anghyfreithlon wedi’u hatafaelu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Arall Mehefin 8, 2023

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Digital Screens
Y cyngorBusnes ac addysg

Cynnig Sgriniau Digidol i helpu busnesau gyda hysbysebu

Mehefin 8, 2023
Climate change
Pobl a lleBusnes ac addysg

Nodi pum cymuned carbon isel

Mehefin 8, 2023
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Y cyngorPobl a lle

Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam

Mehefin 8, 2023
Wales in Bloom
Y cyngorBusnes ac addysgPobl a lle

Rydym yn paratoi ar gyfer Cymru yn ei Blodau

Mehefin 7, 2023
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Fy Niweddariadau
  • Hysbysiadau awtomatig
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Cofrestru
newyddion.wrecsam.gov.uk
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cofrestru
Prif storiau - tanysgrifwch!

Peidiwch â methu’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Sign up
Rhowch gynnig arno! Gallwch ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg.

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English