Bydd 7 o bobl ifanc o Wrecsam yn cael eu hyfforddi gan un o enwogion y byd rygbi, Gareth “Alfie” Thomas, a’r hyfforddwr rhedeg rhyngwladol James Thie i gystadlu yn Hanner Marathon Caerdydd, wedi’i drefnu gan Run4Wales, ar 1 Hydref.
Bydd pob un yn cael ei ffilmio yn rhan o Alfie’s Army 2017, cyfres deledu BBC 1 Wales.
Mae’r 7 rhedwr dewr: Yasmin Sides, 18, Sam Sides, 20, Jordan Jackson, 17, Jade Griffith, 17, Chloe Roberts, 17, Mia Jeffs, 17 a Tricia Jones, 22, yn mynd drwy raglen ymarfer cam-wrth-gam dros 16 wythnos ac mae ganddynt gynllun ymarfer wythnosol.
Fis Medi, fe fyddant yn cymryd rhan mewn ras ymarfer 10 cilomedr ac yn cyfarfod ag Alfie cyn ymuno ag o ar gyfer y ras fawr ei hun ar 1 Hydref.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Dros y 3 blynedd ddiwethaf, mae dros 200 o redwyr amatur o bob oed a gallu wedi llwyddo i gwblhau Hanner Marathon Caerdydd drwy ddilyn yr un cynllun ymarfer.
“eu canmol am eu gwaith caled”
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi:
“Mae’n wych gweld pobl ifanc yn treulio peth o’u hamser yn ymarfer ac yn cymryd rhan mewn digwyddiad mor fawr. Mae angen eu canmol am eu gwaith caled ac mi ydw i’n dymuno pob lwc i bob un ohonyn nhw ar 1 Hydref!”
Rhai o’r bobl ifanc o Wrecsam sy’n rhan o Alfie’s Army: Jordan Jackson, Sam Sides, Mia Jeffs, Jade Griffiths a Yasmin Sides gyda Gareth Thomas yn ddiweddar.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI