Ar 20 Mawrth, bydd yr Hwb Lles yng nghanol dinas Wrecsam yn cynnal digwyddiad a fydd yn herio’r ffordd rydym yn meddwl am heneiddio
Mae Cyngor Wrecsam a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn eich gwahodd i ddigwyddiad Gweld a Chael Eich Gweld, diwrnod sy’n rhoi cyfle i bawb ddysgu, gweithredu a helpu i newid y ffordd yr ydym yn meddwl am heneiddio.
Rhwng 10am a 2pm ar 20 Mawrth, bydd yr Hwb Lles yn croesawu sefydliadau a fydd yn trafod ystod o faterion sy’n gallu effeithio ar bobl wrth iddynt heneiddio, yn cynnwys problemau yn y gweithle, colli golwg, straen, gwella lles a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol. Bydd y digwyddiad hefyd yn tynnu sylw at yr amrywiaeth enfawr sy’n gysylltiedig â heneiddio a bydd yn anelu i ysbrydoli pobl, a dangos iddynt fod y posibiliadau’n ddi-ddiwedd.
Mae’r holl wybodaeth yn rhad ac am ddim a bydd lluniaeth ar gael drwy gydol y dydd.
Oes gennych chi awydd rhoi cynnig ar ganu er lles yr ymennydd, aerobeg cadair neu adeiladu terariwm? Mae’r rhain hefyd yn rhad ac am ddim, ond mae angen i chi gysylltu i gadw eich lle ac efallai y bydd yn rhaid i chi ddod â rhai deunyddiau gyda chi. I gael gwybod mwy, ac i gadw eich lle, ewch i wefan Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam.
Mae’r sefydliadau a fydd yn bresennol yn cynnwys: Cymunedau am Waith a Mwy, Vision Support, Cynllun Atal Codymau BIPBC, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – gweithgareddau awyr agored am ddim. Gall bod allan yn yr awyr agored yn Erddig fod yn ffordd wych o ymlacio a gwella lles, Age Cymru, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam a Thîm Gwella Iechyd BIPBC ymysg sawl un arall.