Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Biniau glanweithiol i ddynion bellach ar gael yn nhoiledau Wrecsam – Am y tro cyntaf yng ngogledd Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Biniau glanweithiol i ddynion bellach ar gael yn nhoiledau Wrecsam – Am y tro cyntaf yng ngogledd Cymru
Y cyngorArall

Biniau glanweithiol i ddynion bellach ar gael yn nhoiledau Wrecsam – Am y tro cyntaf yng ngogledd Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 19, 2024 10:46 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Sanitary bins
RHANNU

Rydym ni’n cefnogi ymgyrch Boys need Bins gan Prostate Cancer UK, gan olygu mai ni fydd y Cyngor cyntaf yng ngogledd Cymru i osod biniau glanweithiol mewn toiledau cyhoeddus yng nghanol dinas Wrecsam.

Cynnwys
  • Lle mae’r biniau glanweithiol newydd i ddynion?
  • Annog sefydliadau eraill i osod biniau glanweithiol

Nod yr ymgyrch yw rhoi’r un mynediad i ddynion i finiau glanweithiol ag sydd gan ferched ar hyn o bryd, a thynnu sylw at y rhwystr y gall anymataliaeth ei achosi, yn enwedig i bobl sydd ag Afiechyd Crohns a Chancr y Prostad.

  • Fe fydd 1 mewn 8 o ddynion yn cael cancr y prostad, a’r sgil effeithiau i rai oherwydd eu triniaeth, yw problemau gyda’u pledren a pherfedd.
  • Yn y DU, fe fydd tua 1 mewn 3 o ddynion dros 65 oed yn cael problemau anymataliaeth troethol, tra y bydd 1 mewn 20 o ddynion dros 60 oed yn cael problemau anymataliaeth gyda’u perfedd.
  • Does gan nifer o’r dynion yma ‘nunlle cyfleus na disylw i gael gwared ar eu gwastraff glanweithiol.  Nid yw hynny’n ddigon da. 

Lle mae’r biniau glanweithiol newydd i ddynion?

  • Gorsaf Fysiau Wrecsam
  • Toiledau Stryt Henblas
  • Tŷ Pawb
  • Neuadd Goffa Wrecsam

Meddai Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adnoddau, “Daeth hyn i’m sylw i pan gododd aelod o’r cyhoedd y mater gyda chyd gynghorydd, a gysylltodd â mi yn ei dro. 

“Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i ddynion ar draws y DU sydd angen biniau glanweithiol ddefnyddio cyfleusterau anabl neu hyd yn oed gario bag gyda nhw. Mae’r ddau yn stigmateiddio ac yn ddiraddiol ac rydw i’n falch o ddweud bod y sefyllfa yn Wrecsam bellach wedi gwella er eu lles nhw.

“Rydw i’n gobeithio gweld nifer o sefydliadau eraill ar draws y fwrdeistref sirol yn ymuno â ni a chynnig biniau glanweithiol yn eu cyfleusterau er mwyn helpu i wella’r sefyllfa hyd yn oed ymhellach”.

Meddai Nick Ridgman, Pennaeth Gwybodaeth Iechyd a Chefnogaeth Glinigol yn Prostate Cancer UK: “Mae dyn sydd yn byw ag anymataliaeth yn haeddu’r rhyddid i adael y tŷ heb boeni a fydd o’n gallu cael gwared ar y padiau y mae wedi’u defnyddio yn lanweithiol ac yn ddisylw.

“Er y ffaith bod gan 1 mewn 3 o ddynion dros 65 oed anymataliaeth troethol, mae yna ddiffyg enbyd o finiau glanweithiol mewn toiledau dynion ac mae yna dabŵ parlysol yn ymwneud a’r mater. Mae bron i bob dyn rydym ni wedi siarad â nhw yn teimlo pryder ynglŷn â gadael y tŷ, ac mae nifer hyd yn oed wedi dweud eu bod wedi gorfod cario eu padiau budr mewn bag.

“Rydw i wrth fy modd bod Cyngor Wrecsam yn cefnogi ein hymgyrch Boys need Bins a’u bod yn cyflwyno biniau glanweithiol yn eu toiledau dynion.  Mewn mannau eraill yng Nghymru, mae Trafnidiaeth Cymru a Chynghorau Torfaen, Cas-gwent a Sir Gâr wedi cyflwyno biniau hefyd.  Rydym ni’n ceisio newid y gyfraith er mwyn i bob dyn gael mynediad at fin iawn, ac yn y cyfamser mae hi’n gyffrous bod cynnydd gwirioneddol yn digwydd yma yng Nghymru ac ar draws y DU.

“Fel elusen rydym ni’n gweithio i gyrraedd cynifer o ddynion â phosibl yng Nghymru, gan fod gormod yn derbyn diagnosis o gancr y prostad sydd wedi ymledu. Yn aml iawn does yna ddim symptomau ar gyfer cancr y prostad, felly’r cynharaf y byddwch chi’n ei ddarganfod, yr haws ydi o i’w drin.  Gallwch wirio eich risg mewn 30 eiliad gan ddefnyddio ein hadnodd ‘Risk Checker’ ar wefan Prostate Cancer UK.”  

Annog sefydliadau eraill i osod biniau glanweithiol

I ddysgu mwy ynghylch sut gall eich sefydliad chi helpu’r sefyllfa, ewch i Prostate Cancer UK

Sanitary Bins

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Rydym yn chwilio am gefnogwyr

Rhannu
Erthygl flaenorol Ageing Herio’r ffordd yr ydym yn meddwl am heneiddio
Erthygl nesaf Artist's impression Rhannwch eich barn ar gynlluniau Rob i harddu Wrecsam fel teyrnged i Ryan!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English