Fel arwydd o barch, mae nifer o bobl wedi gadael blodau ar Sgwâr y Frenhines yn dilyn ei Diweddar Fawrhydi y Frenhines Elizabeth II.
Yn anffodus, mae’r blodau yn dechrau gwywo, ac er ein bod wedi eu gadael am cyn hired â phosib, bydd rhaid i ni eu symud yn y diwrnodau nesaf.
Fodd bynnag, bydd bob neges a adawyd gyda’r blodau yn cael eu casglu a’u cadw fel teyrnged briodol a chofnod hanesyddol o sut y bu i Wrecsam alaru colli rhywun a wasanaethodd am y cyfnod hiraf fel aelod o’r frenhiniaeth.
Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi gadael blodau ar Sgwâr y Frenhines – roedd yn weithred glên a meddylgar sydd wedi dangos faint roedd y Frenhines yn ei olygu i ni yma yn Wrecsam.
Diolch.