Yr ysgol wedi cau am y gwyliau… neu ddim?
Mae llwyth o weithgareddau llawn hwyl yn digwydd yn ysgolion Wrecsam yn ystod yr haf i gadw plant yn egnïol … o wersylloedd chwaraeon i glybiau crefftau.
Meddai’r Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Pobl – Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi:
“Er bod yr ystafelloedd dosbarth wedi cau am yr haf, gall ysgolion a chyfleusterau cysylltiedig ddarparu llawer o bethau i’r plant ei wneud.
“Er enghraifft, mae llawer o ysgolion cynradd yn cynnig clybiau gwyliau, sy’n cyfuno gofal plant a gweithgareddau chwarae.
“Ac mae rhai o’n hysgolion uwchradd yn gartref i Ganolfannau Hamdden Freedom, sy’n cynnig llawer o chwaraeon a gweithgareddau i blant.
“Hyd yn oed yn ystod y gwyliau, mae llawer yn digwydd mewn ysgolion i helpu i gadw eich plentyn yn brysur ac yn egnïol.”
Rhai o bethau eraill sydd ar gael…
Clybiau yn ystod gwyliau’r ysgol
Mae llawer o glybiau gwyliau wedi’u lleoli yn ysgolion cynradd Wrecsam, gan ddarparu gofal plant diwrnod cyfan a hanner dydd, wedi’i gyfuno gydag ystod o weithgareddau chwarae.
Mae rhai yn cael eu cynnal gan yr ysgol ei hun, tra bo eraill yn cael eu cynnal gan ddarparwyr allanol.
Gwersylloedd chwaraeon yr haf – 26-30 Gorffennaf ac Awst 9-13
Canolfan Hamdden Clywedog @ Ysgol Clywedog
Os yw eich mab neu ferch yn hoffi pêl-droed, cymerwch gip ar wersylloedd chwaraeon yr haf, sy’n cael eu cynnal gan Progressive Sports.
Pwy a ŵyr… efallai fod gennych y Lionel Messi neu’r Sophie Ingle nesaf!
Dosbarthiadau Trampolîn – boreau Iau
Canolfan Hamdden Rhiwabon @ Ysgol Rhiwabon
Rhywbeth i wneud eich plant i neidio mewn llawenydd!… ceisiwch y sesiynau trampolîn hyn i blant 7+ oed. Trefnwyd gan dîm Wrecsam Egnïol.
Am ragor o wybodaeth (cysylltwch ag Wrecsam Egnïol)…
Nofio am ddim i blant
Canolfan Hamdden y Waun @ Ysgol y Waun
Mae’r ganolfan hamdden yn cynnig gwersi nofio am ddim sy’n cynnwys Tonnau 1-5, ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae llwythi o sesiynau nofio am ddim i gadw’r plant yn brysur.
Os yw eich plentyn yn hunanynysu…
Ni waeth faint y temtasiwn, os yw eich plentyn yn fod yn hunanynysu, cofiwch eu cadw gartref ar gyfer y cyfnod ynysu llawn, a pheidiwch â gadael iddynt fynd i unrhyw weithgareddau.
Cadwch Wrecsam yn ddiogel.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN