Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyfle llawrydd – Rydym yn chwilio am ymarferydd celfyddydau i gyflwyno clwb celf i deuluoedd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cyfle llawrydd – Rydym yn chwilio am ymarferydd celfyddydau i gyflwyno clwb celf i deuluoedd
Y cyngor

Cyfle llawrydd – Rydym yn chwilio am ymarferydd celfyddydau i gyflwyno clwb celf i deuluoedd

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 27, 2021 4:43 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Cyfle llawrydd - Rydym yn chwilio am ymarferydd celfyddydau i gyflwyno clwb celf i deuluoedd
RHANNU

Rydym yn chwilio am ymarferydd celfyddydol brwdfrydig, creadigol a threfnus, i gynllunio, cyflwyno a gwerthuso ein Clwb Celf i Deuluoedd, sy’n digwydd ar foreau Sadwrn.

Bydd y contract hwn i gynnal 23 o sesiynau rhwng 11fed Medi 2021 a 26ain Mawrth 2022.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Y ffi benodedig am hyn yw £5,200, gan gynnwys teithio, deunyddiau ac unrhyw dreuliau eraill.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Dylid cynllunio rhaglen y Clwb Celf i Deuluoedd i ymgysylltu â phlant 4-11 oed a’u teuluoedd, gan gymryd ysbrydoliaeth o arddangosfeydd Tŷ Pawb, y rhaglen gelfyddydol ehangach a neuadd y farchnad. Hoffem i’r sesiynau adlewyrchu ethos Tŷ Pawb, a phwysigrwydd iaith a diwylliant Cymru.

Fel arfer, cynhelir sesiynau o fewn y Gofod Celf Defnyddiol yn Tŷ Pawb, ond yn dibynnu ar gyfyngiadau newidiol bydd angen cael cynlluniau wrth gefn digidol ar waith.

Mae’r rôl yn cynnwys cynllunio, sefydlu a glanhau wedi’r sesiwn, monitro (adborth, caniatâd lluniau ac adroddiad gwerthuso diwedd prosiect), darparu cynnwys marchnata a dogfennu pob sesiwn.

Mae potensial i isgontractio ar brydiau, gyda gwybodaeth, cyfranogiad a chydsyniad Tŷ Pawb ymlaen llaw.

I wneud cais, anfonwch e-bost at karen.whittingham@wrexham.gov.uk gyda:

  • CV cyfredol (dim mwy na 2 dudalen)
  • Llythyr yn amlinellu eich addasrwydd ar gyfer y rôl

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad yna bydd angen 2 x tystlythyr

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ddydd Mercher 11 Awst, ac mae angen i ymgeiswyr fod ar gael i’w cyfweld ddydd Iau 19eg Awst.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Football on 3G pitch Hwyl yn yr ysgol yn ystod yr haf hwn
Erthygl nesaf Glyn Ceiriog Allech chi gynnig gofal a chefnogaeth yng Nglyn Ceiriog a’r Waun?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026
Water
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Arall Fideo
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
Cyngor Wrecsam yn cefnogi nodyn atgoffa Cadwch Gymru’n Daclus – Creu Straeon Nid Sbwriel yr haf hwn! 
Y cyngor

Cyngor Wrecsam yn cefnogi nodyn atgoffa Cadwch Gymru’n Daclus – Creu Straeon Nid Sbwriel yr haf hwn! 

Awst 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English