Mae Safonau Masnach Cenedlaethol wedi lansio pecyn hyfforddiant Businesses Against Scams er mwyn helpu i amddiffyn busnesau, gweithwyr a chwsmeriaid rhag sgamiau costus.
Wrth i fusnesau orfod newid neu roi’r gorau i’w harferion masnachu, mae troseddwyr yn achub ar y cyfle i dargedu gweithwyr sy’n gweithio o adref ac yn ynysu oddi wrth eu cydweithwyr.
Mae nifer o sgamiau diweddar wedi gweld troseddwyr yn smalio bod yn swyddogion ac uwch weithwyr o’r llywodraeth er mwyn rhoi pwysau ar weithwyr i ddarparu gwybodaeth sensitif neu i wneud taliadau.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Gyda’r risg cynyddol hwn, mae Safonau Masnach Cenedlaethol yn annog busnesau i ddefnyddio Businesses Against Scams.
Dywedodd Louise Baxter, Pennaeth Tîm Sgamiau Safonau Masnach Cenedlaethol: “Mae troseddwyr yn achub ar bob cyfle posibl i dwyllo pobl ddiniwed. Byddant yn parhau i geisio camfanteisio ar yr argyfwng cenedlaethol hwn o bob ongl ac rydym am sicrhau bod busnesau yn barod amdanyn nhw. Rydym wedi lansio Businesses Against Scams fel pecyn gwaith am ddim i helpu sefydliadau i amddiffyn eu busnes, eu staff a’u cwsmeriaid.”
Dywedodd yr Arglwydd Toby Harris, Cadeirydd Safonau Masnach Cenedlaethol: “Mae Covid-19 wedi rhoi cyfleoedd newydd i droseddwyr ecsbloetio busnesau. Maen nhw’n arbenigwyr ar ddynwared pobl, busnesau a’r heddlu. Maen nhw’n treulio oriau yn ymchwilio i fusnesau ar gyfer eu sgamiau yn y gobaith y gallant ddal gweithwyr allan. Mae’n rhaid i fusnesau fod yn wyliadwrus bob amser. Peidiwch â brysio, cymerwch ofal a heriwch bob tro.
“Mae menter Businesses Against Scams yn grymuso busnesau a’u gweithwyr i wrthsefyll sgamiau trwy eu harfogi â’r cyngor a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i adnabod ac atal sgamiau.”
Gall busnesau ymgymryd â’r hyfforddiant a chofrestru ar www.friendsagainstscams.org.uk/BAS
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19