egniol

Mae Wrecsam Egnïol yn lansio her wythnosol er mwyn cynyddu cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol i blant a phobl ifanc ar draws Wrecsam tra’u bod adref.

Bydd yr her yn cael ei gyhoeddi ar gyfrifon Wrecsam Egnïol ar Facebook, Instagram a Twitter. Bob bore dydd Llun am 10am, bydd her neu destun yn cael ei osod ar gyfer yr wythnos, megis; gweithgaredd gyda phêl; gweithgaredd taro; a gweithgaredd symud ac ati.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Bydd gan unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan tan hanner dydd ar ddydd Gwener yr un wythnos i anfon eu fideos, sylwadau a lluniau i mewn. Yna bydd Wrecsam Egnïol yn dewis eu ffefryn yn seiliedig ar bwy sydd wedi bod y mwyaf creadigol.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi bob prynhawn dydd Gwener. Bob wythnos bydd yr enillydd yn derbyn gwobr offer chwaraeon a fydd yn seiliedig ar thema wahanol.

Dilynwch y tudalennau cyfryngau cymdeithasol yma:
Instagram – @ActiveWrexham
Twitter – @WrecsamEgniol 
Facebook – Active Wrexham

Mae’r her gyntaf wedi ei gyhoeddi yn barod ac mae gennych tan ddydd Iau, 7 Mai i gyflwyno eich cais.

Pob lwc!

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19