Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr a gall helpu i leihau’r gorbryder i unigolion gydag awtistiaeth a’u helpu i gael profiad cadarnhaol wrth ymweld â busnesau a gwasanaethau.
Mae’r Cynllun Ardystio Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth wedi’i anelu at bawb sy’n dymuno cael gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth. Ar ôl i chi gwblhau’r hyfforddiant, fe fyddwch chi’n cael tystysgrif wedi’i bersonoleiddio i’w lawrlwytho.
Gallwch gael gafael ar hyfforddiant ymwybyddiaeth o awtistiaeth ar-lein, yn rhad ac am ddim yma.
Mae’r hyfforddiant yn dangos sut mae gwneud newidiadau bach yn gallu lleihau’r gorbryder i unigolion sy’n byw gydag awtistiaeth a’u helpu i deimlo’n fwy cynhwysol yn eu cymuned. Mae’r hyfforddiant awtistiaeth, a ddatblygwyd gan y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, yn cefnogi Cod Ymarfer newydd Awtistiaeth.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae llawer o fusnesau a sefydliadau ar draws Wrecsam eisoes wedi cael yr hyfforddiant. Mae holl lyfrgelloedd Wrecsam yn Ymwybodol o Awtistiaeth ac mae staff wedi cwblhau’r hyfforddiant. Dyma rai o hanesion ac enghreifftiau busnesau eraill Wrecsam sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant.
“Fe wnaethom yr hyfforddiant ymwybyddiaeth o awtistiaeth yn ein siop farbwr. Gan fod gen i wyres sydd ag awtistiaeth, roeddwn i eisiau gwneud sesiynau torri gwallt ychydig yn haws i blant awtistig a’u rhieni, hyd yn oed os mai bod ag ychydig mwy o ddealltwriaeth ac amynedd mae hynny’n ei olygu.” Blades Gents Barbers
“Yma yn BNI North Wales, rydym ni’n cefnogi cynhwysiant a niwroamrywiaeth. Rydym wedi cwblhau Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth ac rydym yn teimlo’n barod i gefnogi unigolion mewn busnes sydd yn awtistig. Mae gennym ni bellach ddealltwriaeth ehangach o anghenion unigryw y rhai sydd ar y sbectrwm ac rydym wedi paratoi i ddarparu awyrgylch groesawgar a chyfforddus i bawb. Mae BNI yn rhwydwaith busnes proffesiynol, byd-eang, sydd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i raddfa busnesau lleol. Rydym ni’n deall bod pawb yn wahanol ac felly mae ganddynt anghenion cefnogaeth wahanol. Mae gennym lawer o hyfforddiant, mentora a chefnogaeth i fusnesau bach yn ardal Gogledd Cymru sydd yn cynnwys sut i gynhyrchu busnes ar lafar. Rydym ni’n credu ein bod yn amgylchedd diogel a chefnogol i’r rhai sydd yn y busnes sydd angen y gefnogaeth, datblygiad ac amgylchedd cysylltiedig sydd ei angen i ffynnu, nid i oroesi yn unig.” BNI – Cyfarwyddwr Gweithredol – Jennifer Hardman”
Mae’r holl staff yn Yellow & Blue wrthi’n cwblhau Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth ac yn fuan fe fyddwn ni’n sefydliad sy’n Ymwybodol o Awtistiaeth. Mae Y&B hefyd yn benthyg clustffonau VR Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth gan CBSW ac fe fydd y rhain ar gael ynghyd ag eitemau synhwyraidd mewn ardal synhwyraidd sydd wedi’i greu’n arbennig yn y Ganolfan (ar ôl iddo gael ei gwblhau).
Dim ond ychydig o enghreifftiau a hanesion yw’r rhain o sut mae busnesau lleol yn gwneud newidiadau i helpu pobl sydd yn byw gydag awtistiaeth i deimlo’n fwy cyfforddus yn eu cymuned leol.
Os ydi hyn wedi’ch ysbrydoli chi i wneud newid, gallwch gael gafael ar yr hyfforddiant am ddim yma.
Gwefan Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH