Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth
ArallBusnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 30, 2022 11:48 am
Rhannu
Darllen 4 funud
man writing by a computer
RHANNU

Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr a gall helpu i leihau’r gorbryder i unigolion gydag awtistiaeth a’u helpu i gael profiad cadarnhaol wrth ymweld â busnesau a gwasanaethau.

Mae’r Cynllun Ardystio Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth wedi’i anelu at bawb sy’n dymuno cael gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth. Ar ôl i chi gwblhau’r hyfforddiant, fe fyddwch chi’n cael tystysgrif wedi’i bersonoleiddio i’w lawrlwytho. 

Gallwch gael gafael ar hyfforddiant ymwybyddiaeth o awtistiaeth ar-lein, yn rhad ac am ddim yma.

Mae’r hyfforddiant yn dangos sut mae gwneud newidiadau bach yn gallu lleihau’r gorbryder i unigolion sy’n byw gydag awtistiaeth a’u helpu i deimlo’n fwy cynhwysol yn eu cymuned.  Mae’r hyfforddiant awtistiaeth, a ddatblygwyd gan y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, yn cefnogi Cod Ymarfer newydd Awtistiaeth.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Mae llawer o fusnesau a sefydliadau ar draws Wrecsam eisoes wedi cael yr hyfforddiant. Mae holl lyfrgelloedd Wrecsam yn Ymwybodol o Awtistiaeth ac mae staff wedi cwblhau’r hyfforddiant.  Dyma rai o hanesion ac enghreifftiau busnesau eraill Wrecsam sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant.

“Fe wnaethom yr hyfforddiant ymwybyddiaeth o awtistiaeth yn ein siop farbwr.  Gan fod gen i wyres sydd ag awtistiaeth, roeddwn i eisiau gwneud sesiynau torri gwallt ychydig yn haws i blant awtistig a’u rhieni, hyd yn oed os mai bod ag ychydig mwy o ddealltwriaeth ac amynedd mae hynny’n ei olygu.” Blades Gents Barbers

“Yma yn BNI North Wales, rydym ni’n cefnogi cynhwysiant a niwroamrywiaeth. Rydym wedi cwblhau Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth ac rydym yn teimlo’n barod i gefnogi unigolion mewn busnes sydd yn awtistig.  Mae gennym ni bellach ddealltwriaeth ehangach o anghenion unigryw y rhai sydd ar y sbectrwm ac rydym wedi paratoi i ddarparu awyrgylch groesawgar a chyfforddus i bawb. Mae BNI yn rhwydwaith busnes proffesiynol, byd-eang, sydd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i raddfa busnesau lleol. Rydym ni’n deall bod pawb yn wahanol ac felly mae ganddynt anghenion cefnogaeth wahanol. Mae gennym lawer o hyfforddiant, mentora a chefnogaeth i fusnesau bach yn ardal Gogledd Cymru sydd yn cynnwys sut i gynhyrchu busnes ar lafar. Rydym ni’n credu ein bod yn amgylchedd diogel a chefnogol i’r rhai sydd yn y busnes sydd angen y gefnogaeth, datblygiad ac amgylchedd cysylltiedig sydd ei angen i ffynnu, nid i oroesi yn unig.” BNI – Cyfarwyddwr Gweithredol – Jennifer Hardman”

Mae’r holl staff yn Yellow & Blue wrthi’n cwblhau Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth ac yn fuan fe fyddwn ni’n sefydliad sy’n Ymwybodol o Awtistiaeth. Mae Y&B hefyd yn benthyg clustffonau VR Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth gan CBSW ac fe fydd y rhain ar gael ynghyd ag eitemau synhwyraidd mewn ardal synhwyraidd sydd wedi’i greu’n arbennig yn y Ganolfan (ar ôl iddo gael ei gwblhau).

Dim ond ychydig o enghreifftiau a hanesion yw’r rhain o sut mae busnesau lleol yn gwneud newidiadau i helpu pobl sydd yn byw gydag awtistiaeth i deimlo’n fwy cyfforddus yn eu cymuned leol.

Os ydi hyn wedi’ch ysbrydoli chi i wneud newid, gallwch gael gafael ar yr hyfforddiant am ddim yma.

Awtistiaeth Cymru

Gwefan Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Jasmine at her desk working Beth yw Your Space?
Erthygl nesaf Eich pleidlais Pythefnos sydd ar ôl i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau sydd ar ddod

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English