Gyda’r anhygoel Gwledd Wrecsam yn dychwelyd i Wrecsam ar Faes Parcio’r Byd Dŵr, mae angen i ni eich gwneud yn ymwybodol o’r lleihau dros dro a chau rhai o’r mannau parcio yno ar gyfer y digwyddiad.
20 a 21 Mai – llai o leoedd ar y maes parcio
22, 23, 24 a 25 – Maes parcio wedi cau ar gyfer y digwyddiad
26 Mai – llai o leoedd ar y maes parcio
Mae rhestr o feysydd parcio amgen ar gael ar wefan. CBSW.
Dwedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, y Cynghorydd Nigel Williams, “Bydd Gwledd Wrecsam a gynhelir dros ŵyl y banc yn llawn hwyl, bwyd, diod a cherddoriaeth. “Ffordd wych o dreulio amser yng Nghanol y Ddinas yn mwynhau bwyd a diod lleol ac egsotig, arddangosfeydd coginio a cherddoriaeth.“Mae Gwledd Wrecsam yn un o uchafbwyntiau calendr Wrecsam, felly rwy’n annog pawb i ddod i gefnogi a mwynhau’r digwyddiad.”