Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Porth Lles ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gofal Cymdeithasol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Porth Lles ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gofal Cymdeithasol
Y cyngorPobl a lle

Porth Lles ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gofal Cymdeithasol

Diweddarwyd diwethaf: Mai 19, 2025 10:55 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Porth Lles ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gofal Cymdeithasol
RHANNU

Mae’r Gwobrau Gofal Cymdeithasol, sy’n cael eu trefnu gan Gofal Cymdeithasol Cymru a’u noddi gan Llais, yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu arfer rhagorol ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Eleni, cystadlodd 127 o brosiectau a gweithwyr gofal o bob cwr o Gymru neu cawsant eu henwebu ar gyfer y gwobrau.

Cyrhaeddodd y Porth Lles y rhestr fer i’r 3 olaf yn y categori Gweithio mewn Partneriaeth yn y Gwobrau Gofal Cymdeithasol gan wynebu cystadleuaeth gref gan 28 o enwebeion eraill ledled Cymru.

Mae’r Porth Lles yn blatfform digidol sy’n darparu mynediad at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd a phawb sy’n gweithio gyda nhw yn gyflym ac yn hawdd, a’r cyfan mewn un lle. Er ei fod yn blatfform digidol, mae’n ddigidol gyda rhyngweithio dynol ar bwyntiau allweddol trwy gydol taith y Porth.

Datblygwyd y Porth yn dilyn ymgynghoriad helaeth â theuluoedd, lle’r oeddent yn esbonio eu bod yn aml yn gorfod cysylltu â sawl sefydliad gwahanol wrth chwilio am gymorth. Mae’r broses hon yn aml yn cynnwys ailadrodd eu straeon, sawl gwaith, i sawl sefydliad, wrth chwilio am y gefnogaeth gywir iddynt. Yna fel arfer ceir atgyfeiriadau lluosog at sawl sefydliad cyn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt, a gall arwain at rwystredigaeth a dryswch.

Nod y Porth hwn yw lleihau’r rhwystrau hyn yn sylweddol drwy ddarparu un lle i adrodd eu stori, lle gallant gael mynediad at sawl sefydliad, gan gynnwys Awdurdod Lleol a’r Trydydd Sector.

Dywedodd Sarah McCarty, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn o gael grŵp mor gryf o ymgeiswyr terfynol sy’n arddangos y gwaith gofal ardderchog sy’n digwydd ledled Cymru. 

 “Unwaith eto, rydym wedi derbyn safon eithriadol o uchel o geisiadau ac mae’r beirniaid wedi cael amser anodd yn didoli’r ceisiadau i ddim ond 18 o ymgeiswyr terfynol.  

 “Mae’r Gwobrau eleni wedi rhoi rhai enghreifftiau gwych i ni o weithwyr, timau a sefydliadau ysbrydoledig ac ymroddedig sy’n darparu gofal a chefnogaeth ardderchog i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, gan ddangos y gwahaniaeth cadarnhaol y mae hyn yn ei wneud i fywydau pobl.”

Meddai’r Cynghorydd Robert Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant, “Mae cael y Porth Lles ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol yn gyflawniad gwych. Rydw i mor falch o’r tîm am yr holl waith maen nhw wedi’i wneud. Mae cyrraedd y 3 uchaf yn y categori Partneriaethau yn erbyn maes mor gryf yn dipyn o gyflawniad.”

“Mae angen cymorth a chefnogaeth ar lawer o’n preswylwyr yn Wrecsam. Mae’r Porth Lles nid yn unig yn eu cyfeirio i’r lle cywir, ond mae’n gwneud y broses gymaint yn fwy syml. Gall hyd yn oed person sydd ei angen fwyaf benderfynu peidio â thrafferthu ceisio gwneud cyswllt os yw proses yn rhy gymhleth. Mae’r Porth Lles yn symleiddio’r broses honno ac yn ei gwneud hi’n haws dod o hyd i’r help/cymorth mwyaf addas yn y dyfodol. Da iawn bawb.”

Mynychu’r Gwobrau ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – o’r chwith i’r dde Becci Roberts – Arweinydd Dros Dro ar gyfer Atal a Datblygu Gwasanaethau, Lisa Atherton – Rheolwr Tîm Cynorthwyol ar gyfer Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam, Rhian Thomas – Uwch Bennaeth Gwasanaeth Gwasanaethau Plant, a’r Cynghorydd Robert Walsh – Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant.

I ddarganfod mwy am y Porth Lles, neu i wneud atgyfeiriad am gymorth, dilynwch y ddolen.

Rhannu
Erthygl flaenorol Hysbysiad o gau maes parcio dros dro Hysbysiad o gau maes parcio dros dro
Erthygl nesaf Siop gyfleustra a siop barbwr yn Llai yn cael eu cau gan Safonau Masnach am werthu tybaco a fêps anghyfreithlon Siop gyfleustra a siop barbwr yn Llai yn cael eu cau gan Safonau Masnach am werthu tybaco a fêps anghyfreithlon

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English