Erthygl Gwadd – Buglife Cymru
Allwch chi helpu?
Ydych chi’n cerdded ar hyd Afon Dyfrdwy, yn pysgota yn yr afon, yn padlfyrddio, yn caiacio, neu oes gennych chi erddi ger yr afon? Os felly, efallai y dewch chi ar draws pryfyn bach, main, tywyll tua 2cm o hyd yn eistedd ar ddant y llew neu flodyn arall, neu efallai ar bostyn ffens, efallai hyd yn oed ar goeden neu bont. Os byddwch chi, rhowch wybod i Buglife Cymru!
Mae’r pryfyn cerrig Isogenus nubecula yn bryfyn cerrig sydd mewn perygl difrifol a’i unig gartref hysbys yn y DU yw Afon Dyfrdwy a’i glannau wrth iddi lifo trwy Fwrdeistref Wrecsam. Mae Buglife Cymru, gyda chefnogaeth Sw Caer a gwirfoddolwyr eraill, yn ymdrechu i ddarganfod popeth y gallant am “bryfyn cerrig Wrecsam” ym mis Ebrill a mis Mai; y misoedd pan fydd yn byw allan o’r dŵr.
Swyddog Cadwraeth Isogenus nubecula Buglife Cymru, Natur am Byth, Sarah Hawkes sy’n rhannu: “Rydyn ni’n gofyn i drigolion Wrecsam fynd ati i gadw llygad ar yr afon. Os ydych chi’n gweld y pryfyn cerrig hwn, neu bryfyn a allai fod yn Isogenus nubecula, tynnwch lun ac anfonwch y llun at Buglife trwy’r ddolen isod neu gan ddefnyddio’r cod QR ar un o’n taflenni. Gall fod yn eithaf anodd ei adnabod a llun sy’n edrych ar gefn y pryfyn fel ein hesiampl ni, sy’n ein helpu fwyaf.”
Mae Buglife yn croesawu pob llun posibl o’r pryfyn a pho fwyaf o luniau o bryfed cerrig a gyflwynir gan y cyhoedd, gyda gwybodaeth am ble cawsant eu gweld, ar beth y cawsant eu gweld a beth oedden nhw’n ei wneud, y mwyaf o wybodaeth y bydd yn gan y cadwraethwyr ar gyfer arolwg y flwyddyn nesaf.
Dywed Sarah: “Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb, ymlaen llaw, am eich help a’ch ffotograffau. Os byddwch yn cyflwyno’ch cyfeiriad e-bost, byddwn yn anfon neges atoch i roi gwybod pa greadur rydych chi wedi’i weld ac yn eich diweddaru ar gynnydd y prosiect.”
I gymryd rhan i “Chwilio am y Pryfyn Cerrig Isogenus nubecula“, a chyflwyno’ch lluniau, ewch i dudalen we arolwg Buglife, lle gallwch hefyd lawrlwytho canllaw defnyddiol a chyfarwyddiadau i’w cymryd gyda chi wrth i chi archwilio Afon Dyfrdwy.