Am yr wythfed flwyddyn bydd y motobeics Knievel yn dychwelyd i Gymru am daith elusennol epig o amgylch Cymru i godi arian at Gymorth Canser Macmillan.
Bydd pob un o’r beicwyr yn gwisgo fel yr arwrol Evel Knievel wrth gychwyn o Wrecsam am 9am ddydd Iau 2 Mai, ac yn dychwelyd ar Ŵyl y Banc ddydd Llun 6 Mai am 5pm, wedi iddynt gwblhau taith 1,070 ar hyd arfordir a ffiniau Cymru.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB
Byddant yn beicio am hyd at ddeuddeg awr y dydd ar hyd y ffyrdd a’r lonydd cefn, gan ymweld â phentrefi diarffordd a’r brifddinas a gweld rhai o’r golygfeydd mwyaf gwefreiddiol yn y byd!
Bydd Maer y Dref yn chwifio ar i drigain o Knievels Cymru fynd yn eu blaenau o’r Stryd Fawr, a bydd popeth yn cael ei ffilmio ar gyfer rhaglen Heno ar S4C.
Ers y daith gyntaf yn 2012 mae’r beicwyr wedi codi mwy na £70,000 ac wedi dod yn ddigwyddiad poblogaidd a hwyliog dros ben.
Os hoffech chi gyfrannu, ewch i www.justgiving.com/cymru2019.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â digwyddiadau motobeics RIDE Cymru, anfonwch e-bost i info@ridecymru.com.
For more information on the RIDE Cymru motorcycle events please email info@ridecymru.com.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
GET UPDATES FROM TŶ PAWB