Unwaith eto cafodd Comic Con Cymru gymeradwyaeth brwd gan y miloedd o bobl o bob rhan o’r DU a thu hwnt a ddaeth i Gampws Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ar gyfer digwyddiad cyntaf 2019.

Er gwaethaf y glaw trwm a’r gwyntoedd cryfion, wnaeth Storm Hannah ddim rhwystro pobl rhag dod i weld eu hoff sêr o fyd y diwylliant poblogaidd modern, roedd hi ychydig yn dawelach ddydd Sul! 🙂

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

Ar y rhestr gwesteion roedd actorion, awduron ac artistiaid llais poblogaidd yn cynnwys Kiefer Sutherland o 24 a Designated Survivor; Sam Neil o Jurassic Park; y Degfed Doctor, David Tennant; Rupert Grint , sef Ron Weasley yn ffilmiau Harry Potter; Ron Perlman o Hellboy ; Liam Cunningham – Ser Davos Seaworth o Game of Thrones; Sam Claflin o The Hunger Games; seren Gotham Sean Pertwee; Emmy Raver-Lampman o The Umbrella Academy… ac aeth y rhestr ymlaen ac ymlaen! 🙂

Fe wnaeth y masnachwyr fusnes da yn gwerthu eitemau trwyddedig, posteri, ffotograffau a swfenîrs o bob math.
Roedd y parth gemau’n llawn dop ar y ddau ddiwrnod wrth i bobl o bob oed roi cynnig ar y gemau a’r teclynnau diweddaraf.

Roedd y sesiynau Cwestiynau ac Atebion sydd bob amser yn hynod boblogaidd, dan eu sang â phobl oedd yn awyddus i glywed gan sêr Sabrina, Gotham, Stargate, Lord of the Rings, Umbrella Academy, Hunger Games a’r Marvel Cinematic Universe.

Ac yn olaf, ar y dydd Sul roedd y diwrnod gwisgoedd anhygoel!
Hoffem ddiolch i’r trefnwyr am ddigwyddiad gwych arall yma yn Wrecsam sy’n dod a dros £1m i’r economi rhanbarthol bob blwyddyn.

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB