Lansiodd yr awdur lleol Samantha Maxwell ei thrydydd llyfr, ‘SILENCED’, yn Nhŷ Pawb ddydd Sadwrn, 27 Medi.
Mae SILENCED yn edrych yn ddyfnach ar berthynas anabledd ag iechyd meddwl, gan gwestiynu a yw’r cysylltiad hwn yn deillio o ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol neu bersonol – neu gyfuniad o’r tri.
Mae’r llyfr yn alwad am newid, gan dynnu sylw at y realiti sy’n aml yn cael ei anwybyddu bod pobl ag anableddau hefyd yn gallu wynebu argyfyngau iechyd meddwl.
Mae’r llyfr yn cynnwys cyfraniadau gan Lesley Griffiths AS a chyn Faer Wrecsam, y Cynghorydd Beryl Blackmore, ynghyd â llawer o leisiau eraill.
Roedd nifer o bobl yn bresennol yn y lansiad, gyda gwesteion yn cynnwys Maer presennol Wrecsam, y Cynghorydd Tina Mannering, Lesley Griffiths AS a Mark Isherwood AS.
Noddodd Perfect Windows and Property Maintenance y digwyddiad yn hael, gyda D Evans Catering yn arlwyo.
Dywedodd Samantha: “Diolch o galon hefyd i’m cyhoeddwr Allan ac i’m teulu, y gwnaeth eu cefnogaeth a’u hanogaeth helpu i wneud y diwrnod yn gymaint o lwyddiant.”
Dyma drydydd llyfr cyhoeddedig Samantha. Mae ei llyfr cyntaf, CP Isn’t Me, yn rhannol hunangofiannol, yn rhannol ffeithiol, ac yn siarad am ei phrofiadau personol ei hun o fyw gyda ffurf ysgafn ar Barlys yr Ymennydd, yn ogystal â’r gwahaniaethu mae hi wedi’i wynebu gan gymdeithas oherwydd ei hanabledd.
Mae ei hail lyfr, Disabling Ableism, yn edrych ar anabledd yn fwy cyffredinol trwy lygaid cymdeithas.
Mae CP Isn’t Me a Disabling Ableism ar gael yn lleol ac yn genedlaethol ledled y Deyrnas Unedig ac America. Yn Wrecsam, mae ei llyfrau i’w gweld yn Waterstones a Siop Fferm a Chanolfan Arddio Bellis Brothers, Holt, ac maen nhw hefyd ar gael ar Amazon.


