Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
newyddion.wrecsam.gov.uk
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y Cyngor yn cydweithio â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch mewn Ymgyrch Gwirio Covid
Rhannu
Notification Show More
Latest News
Environment
Parti Coed Parc Acton
Y cyngor Pobl a lle
Register to vote
Eisiau ennill taleb gwerth £50?
Pobl a lle Y cyngor Yn cael sylw arbennig
Lego
Pencampwr LEGOMASTER Lego Channel 4 yn dod i Wrecsam!
Pobl a lle Y cyngor Yn cael sylw arbennig
Yma o hyd mural
Dod at Cyngerdd Kings of Leon ac yn ymweld â Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…
Pobl a lle Yn cael sylw arbennig
Kings of Leon concert in Wrexham
Cyngerdd Kings of Leon – Cau Ffyrdd Arfaethedig dydd Sadwrn a dydd Sul (27 a 28 Mai)
Arall Yn cael sylw arbennig
newyddion.wrecsam.gov.uk
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
newyddion.wrecsam.gov.uk > Blog > Busnes ac addysg > Y Cyngor yn cydweithio â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch mewn Ymgyrch Gwirio Covid
Busnes ac addysgY cyngorYn cael sylw arbennig

Y Cyngor yn cydweithio â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch mewn Ymgyrch Gwirio Covid

Diweddarwyd diwethaf: 2021/06/03 at 9:04 AM
Rhannu
Darllen 6 funud
HSE
RHANNU

Wrth i fwy o fusnesau ail-agor yn Wrecsam, rydym yn anelu at wneud yn siŵr fod mesurau yn cael eu cymryd gan gyflogwyr i gadw eu gweithwyr yn ddiogel wrth i ni fynd i lefel rhybudd 2 Covid-19.

Cynnwys
Mae’n ddyletswydd ar fusnesau i gadw eu gweithwyr yn ddiogel“Gwyddom am y pwysau sy’n wynebu busnesau”

Rydym yn gweithio gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch er mwyn gwirio busnesau ar hap ar gyfer COVID-19.  Bydd y gwirio’n cefnogi busnesau drwy eu helpu i reoli risg y feirws.

Byddwn yn sicrhau fod busnesau’n ymwybodol o bopeth sydd ei angen arnynt ac yn rhoi cyngor pan fydd diffygion gan nodi beth ydyn nhw.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

- Cofrestru -
Get our top stories

Caiff perchnogion a rheolwyr busnesau eu hannog i gysylltu â’u gweithwyr allweddol (a chynrychiolwyr y gweithwyr megis Undebau) wrth roi newidiadau mewn lle i helpu i gadw pawb yn ddiogel.

Mae’n ddyletswydd ar fusnesau i gadw eu gweithwyr yn ddiogel

Mae rhoi mesurau rheoli COVID-19 mewn lle yn dal yn flaenoriaeth i bob busnes. Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar fusnesau i gadw eu gweithwyr ac eraill yn ddiogel rhag niwed ac mae hyn yn cynnwys cymryd camau rhesymol i reoli’r risg ac amddiffyn pobl rhag Coronafeirws.  Gwyddom fod nifer o gyflogwyr lleol yn gweithio’n galed iawn i gyflawni hyn a dylai’r ymgyrch helpu i roi mwy o sicrwydd yn hyn o beth.

Ond, ni allwn orffwys ar ein rhwyfau, ac mae’r sialens o atal lledaeniad Coronafeirws yn parhau.

Yn ystod y galwadau a’r ymweliadau, rhoddir cyngor a chyfarwyddyd, ond pan na fydd busnesau’n rheoli’r broses yn effeithiol, fe gymerir camau. Gall hyn amrywio o gynnig cyngor, rhoi rhybuddion gorfodaeth, atal rhai arferion gwaith nes eu bod yn ddiogel, a phan fydd busnesau’n parhau i fethu â chydymffurfio, gallai hyn arwain at erlyn.

Yn genedlaethol, mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darganfod rhai problemau cyffredin ar draws nifer o fusnesau, a’r rhain yn cynnwys methu â darparu trefniadau ar gyfer monitro, goruchwylio a chynnal ymbellhau cymdeithasol, a methu â chyflwyno trefn lanhau ddigonol, yn enwedig ar adegau prysur o’r dydd.

Canfuwyd hefyd fod rhai busnesau yn cychwyn arni’n dda gan roi mesurau mewn lle, ond eu bod yn llacio’r mesurau dros amser gan fethu â sicrhau fod pethau fel cadw pellter cymdeithasol, yn cael ei gynnal yn ddigon da.

“Gwyddom am y pwysau sy’n wynebu busnesau”

Dywedodd y Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, “Nid gweithgaredd er mwyn cosbi busnesau yw hyn. Gwyddom am y pwysau sydd ar fusnesau ac rydym am eu cefnogi drwy amser sy’n parhau i fod yn galed iawn.

“Credwn fod mwyafrif y busnesau lleol yn gwneud eu gorau, a bydd y gwirio yma yn helpu busnesau i ddeall beth sydd angen iddyn nhw ei wneud ac i dderbyn awgrymiadau am welliannau lle bo angen”.

“Dim ond mewn achosion ble nad yw busnesau’n rheoli’r risgiau y cymerir camau dilynol.”

Bydd yr ymgyrch gwirio ar hap yn dechrau o 07.06.21.

Os cewch alwad neu ymweliad gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, neu ein swyddogion gorfodi, dylech roi amser i gymryd rhan yn y gwiriad. Caiff ei gynnal er mwyn iechyd a diogelwch y cyhoedd, a bydd peidio â gwneud hynny yn golygu y bydd angen i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu swyddogion y Cyngor, weithredu ar eich amharodrwydd i gymryd rhan.

Gobeithio y bydd yr ymgyrch yn helpu i greu hyder ymysg y gymuned fusnes leol a’r cyhoedd yn ehangach fod busnesau’n gallu gweithredu’n fwy diogel, gan gefnogi dull gweithio’r llywodraeth o ran ail-greu’r economi, a gwarchod iechyd y cyhoedd ar yr un pryd.

Gallai’r gwiriad ddigwydd dros y ffôn neu drwy ymweliad annisgwyl â busnesau yn uniongyrchol gan yr Awdurdod Gweithredol iechyd a Diogelwch; sydd hefyd yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i ddarparu’r gwasanaeth gwirio.

Bydd cynrychiolwyr yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cario cardiau adnabod a llythyr awdurdodiad.  Hefyd, bydd rhif i’w ffonio pe bai busnes angen sicrwydd ychwanegol fod yr unigolyn sy’n cynnal y gwiriad yn ddilys.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i reoli risg coronafeirws mewn gwahanol sectorau, dylai busnesau gyfeirio at ganllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Llywodraeth Cymru ar eu gwefannau perthnasol.

Nid yw Coronafeirws wedi diflannu – dylem ddal i weithio gyda’n gilydd i gadw Wrecsam a Chymru’n ddiogel.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF

Rhannu
Erthygl flaenorol ⚽ Penodi Swyddog Amgueddfa ar gyfer Amgueddfa Bêl-droed Cymru ⚽ ⚽ Penodi Swyddog Amgueddfa ar gyfer Amgueddfa Bêl-droed Cymru ⚽
Erthygl nesaf Vaccine Booster Mae angen gwirfoddolwyr yn Wrecsam ar gyfer yr astudiaeth atgyfnerthu brechlyn COVID-19 gyntaf yn y byd

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Environment
Parti Coed Parc Acton
Y cyngor Pobl a lle Mehefin 2, 2023
Register to vote
Eisiau ennill taleb gwerth £50?
Pobl a lle Y cyngor Yn cael sylw arbennig Mai 24, 2023
Lego
Pencampwr LEGOMASTER Lego Channel 4 yn dod i Wrecsam!
Pobl a lle Y cyngor Yn cael sylw arbennig Mai 24, 2023
Yma o hyd mural
Dod at Cyngerdd Kings of Leon ac yn ymweld â Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…
Pobl a lle Yn cael sylw arbennig Mai 23, 2023

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Environment
Y cyngorPobl a lle

Parti Coed Parc Acton

Mehefin 2, 2023
Register to vote
Pobl a lleY cyngorYn cael sylw arbennig

Eisiau ennill taleb gwerth £50?

Mai 24, 2023
Lego
Pobl a lleY cyngorYn cael sylw arbennig

Pencampwr LEGOMASTER Lego Channel 4 yn dod i Wrecsam!

Mai 24, 2023
Yma o hyd mural
Pobl a lleYn cael sylw arbennig

Dod at Cyngerdd Kings of Leon ac yn ymweld â Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…

Mai 23, 2023
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Fy Niweddariadau
  • Hysbysiadau awtomatig
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Cofrestru
newyddion.wrecsam.gov.uk
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cofrestru
Prif storiau - tanysgrifwch!

Peidiwch â methu’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Sign up
Rhowch gynnig arno! Gallwch ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg.

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English