Dim ond wythnos sydd ar ôl tan ddyddiad cau cofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd fis nesaf, felly dylai unrhyw un sydd eisiau pleidleisio ofalu eu bod nhw wedi cofrestru cyn hynny.
Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw hanner nos ar 16 Ebrill. Gallwch wneud cais ar-lein ar gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Pum munud sydd ei angen.
Ar ddydd Iau 2 Mai, bydd pleidleiswyr yn mynd i bleidleisio ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Gwaith y Comisiynydd yw gwneud yn siŵr bod anghenion plismona eu cymunedau yn cael eu diwallu yn y ffordd fwyaf effeithiol, gan ddod â chymunedau yn nes at yr heddlu, magu hyder pobl yn y system ac adfer ffydd.
Mae’r Comisiynydd yn rhoi llais i’r cyhoedd ar y lefel uchaf bosib, ac yn rhoi’r gallu i’r cyhoedd sicrhau bod eu heddlu yn atebol.
Gyda llai nag wythnos i fynd, mae amser yn brin i sicrhau y gallwch gymryd rhan yn yr etholiadau.
Mae gan bleidleiswyr amryw o ddewisiadau – gallant bleidleisio mewn canolfan, trwy’r post neu drwy benodi rhywun maent yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eu rhan, sef pleidlais trwy ddirprwy. Gallwch ddysgu mwy am y ffyrdd gwahanol ar dudalen we etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd y Cyngor.