Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw hanner nos ar 18 Mehefin. Gellwch wneud cais ar-lein yma: gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Pum munud sydd ei angen arnoch.
Ddydd Iau, 4 Gorffennaf, bydd pleidleiswyr yn bwrw eu pleidlais er mwyn ethol Aelod Seneddol. Dyma’r unigolyn sy’n cynrychioli eich buddiannau a’ch pryderon yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae Aelodau Seneddol yn ystyried a gallant gynnig deddfau newydd yn ogystal â chodi materion sydd o bwys i chi. Mae hyn yn cynnwys gofyn cwestiynau i weinidogion y llywodraeth am faterion cyfoes gan gynnwys y rhai sy’n effeithio ar etholwyr lleol.
Mae gan bleidleiswyr amryw opsiynau – gallant bleidleisio mewn canolfan, trwy’r post neu drwy benodi rhywun maent yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eu rhan, sef pleidlais trwy ddirprwy. Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â’r gwahanol ffyrdd i bleidleisio ar dudalen we’r Cyngor yn ymwneud â’r Etholiad Cyffredinol.