Hoffem atgoffa ein preswylwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd y cesglir gwastraff yn llai aml yn ystod mis Rhagfyr, Ionawr a Chwefror. Bydd preswylwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd yn dal i gael o leiaf un casgliad bob mis rhwng Rhagfyr a Chwefror.
Drwy gasglu’n llai aml bydd ein staff yn rhydd i fynd i’r afael â phethau eraill sy’n codi oherwydd y tywydd oer, fel graeanu ffyrdd a gwaith cynnal a chadw cyffredinol. Byddwn yn dychwelyd i’r drefn o gasglu bob pythefnos ym mis Mawrth, yn barod ar gyfer tymor y gwanwyn.
Atgoffir preswylwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd fod y casgliadau gwastraff gardd cyfredol wedi eu hymestyn tan 28 Chwefror, 2025.
Cofiwch, mae gan y dair canolfan ailgylchu gwastraff y cartref sgipiau gwastraff gardd os ydych angen eu defnyddio.
Mae’n werth cofrestru i gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy e-bost fel nad ydych yn colli unrhyw gasgliadau. Gallwch hefyd edrych pa ddiwrnod yw eich diwrnod bin a all eich helpu i fod yn drefnus.
Mae mwy o wybodaeth am y gwasanaeth casgu gwastraff gardd ar gael ar ein gwefan.