Mae gan staff a disgyblion Ysgol Gynradd Parc Acton le i ddathlu ar ôl derbyn adroddiad Arolwg dilynol llwyddiannus gan Estyn. Mae’r adroddiad yn tynnu’r ysgol oddi ar restr sy’n gofyn am welliant sylweddol.
Yn yr adroddiad, mae’r arolygydd yn dweud: “Bernir bod Ysgol Gynradd Parc Acton wedi gwneud cynnydd digonol mewn perthynas â’r argymhellion yn dilyn yr arolwg craidd mwyaf diweddar.
O ganlyniad, mae Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru’n tynnu’r ysgol oddi ar y rhestr o ysgolion sydd angen gwella’n sylweddol.”
Mae’r adroddiad wedi nodi gwelliannau sylweddol yn y meysydd canlynol:
• Mae cyflwyno ystod o dechnegau addysgu newydd wedi cael effaith gadarnhaol ar sgiliau ysgrifennu’r rhan fwyaf o ddisgyblion.
• Ar draws yr ysgol, mae nifer o ddisgyblion wedi datblygu eu gallu i weithio’n annibynnol, mewn parau ac mewn grwpiau.
• Mae cyflwyno system o gadw golwg ar lyfrau wedi bod yn benodol effeithiol. Ym mhob dosbarth, mae athrawon yn asesu ac yn adolygu gwaith grŵp bach o ddisgyblion penodol dros gyfnod i helpu i safoni asesiadau athrawon ar draws yr ysgol.
• Mae cyfarfodydd staff a’r tîm arwain yn canolbwyntio’n dda ar yr argymhellion o’r arolwg craidd ac mae ganddynt ganlyniadau clir.
• Mae llywodraethwyr yn dod ynghlwm ag argymhellion penodol sy’n deillio o adroddiad yr arolwg craidd. Maent yn cyfarfod gyda’r staff sy’n gyfrifol am bob un o’r meysydd hyn yn rheolaidd i ddatblygu eu dealltwriaeth o gynnydd yr ysgol.
• Ers yr arolwg craidd, mae staff wedi derbyn ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol, gwerthfawr i wella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd disgyblion yn effeithiol ar draws y cwricwlwm.
“Gwaith caled ac ymroddiad”
Siaradodd Mr Peter Cuff, Cadeirydd y Llywodraethwyr, ar ran yr ysgol gan ddweud; “Mae ein plant, ein rhieni, ein staff a’n llywodraethwyr i gyd wedi bod yn rhan o wella ein hysgol. Rydw i’n gwybod nad penderfyniad bach oedd tynnu Parc Acton oddi ar y rhestr o ysgolion a oedd angen gwella’n sylweddol, ac mae hynny’n brawf o waith caled ac ymroddiad pob un a oedd ynghlwm â hynny. Mae llawer i’w ddathlu ac, er ein bod ni’n dal ar ein siwrnai i sicrhau’r cyfleoedd dysgu gorau un i’n plant, rydyn ni’n falch iawn bod Estyn yn teimlo bod y gallu’n amlwg gennym ni i wneud hynny.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Mae angen llongyfarch yr holl staff, disgyblion a llywodraethwyr am eu hymdrechion i sicrhau bod yr ysgol wedi cyflawni argymhellion Estyn erbyn yr ail arolwg. Rydw i wedi gweld â’m llygaid fy hun dros y deunaw mis diwethaf fod bywyd newydd i’r staff a’r llywodraethwyr yn eu gwaith, sy’n rhoi hyder i mi y bydd yr ysgol yn parhau i ffynnu.”
Bu i Ian Roberts, Pennaeth Addysg Cyngor Wrecsam, longyfarch yr ysgol am ei “chanlyniad ardderchog” yn dilyn ymweliad Estyn, gan ganmol pawb am eu “hymdrech, eu hymrwymiad a’u hymroddiad.”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR