Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Hafren Dyfrdwy ar daith i siarad â’u cwsmeriaid am filiau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mae Hafren Dyfrdwy ar daith i siarad â’u cwsmeriaid am filiau
Arall

Mae Hafren Dyfrdwy ar daith i siarad â’u cwsmeriaid am filiau

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 12, 2019 1:26 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Mae Hafren Dyfrdwy ar daith i siarad â’u cwsmeriaid am filiau
RHANNU

Dros yr wythnosau nesaf, bydd rhai o gwsmeriaid Hafren Dyfrdwy yn Wrecsam yn dechrau derbyn eu bil dŵr cyntaf gan y cwmni.

Maen nhw’n awyddus i siarad â phobl ac egluro sut gallwch chi gael help gyda’ch biliau os oes angen, felly maen nhw’n mynd ar daith.

YMGEISIO AM LE MEITHRIN AR GYFER MEDI 2019

Mae Louise Moir, yr Arweinydd Cwsmeriaid, yn egluro: “Pan newidion ni o Ddŵr Dyffryn Dyfrdwy i Hafren Dyfrdwy y llynedd, roedd yn newid mawr i rai. Rydyn ni wedi siarad â llawer o’n cwsmeriaid am y newidiadau’n barod, ond dros yr wythnosau nesaf bydd rhai o’r cwsmeriaid yn derbyn bil gennym ni am y tro cyntaf. Bydd y biliau’n edrych ac yn teimlo ychydig yn wahanol i’r hen filiau, felly mi fyddwn ni ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan gwsmeriaid. Rŵan, efallai mai’r rhain ydi biliau rhataf Cymru, ond rydyn ni’n gwybod y bydd rhai’n dal i gael trafferth, felly rydyn ni eisiau i bobl wybod bod help ar gael gan ein tîm cyfeillgar.

“Rydyn ni wir eisiau siarad â chymaint o bobl ag y gallwn – p’un a ydyn nhw’n cael trafferth gyda’u bil er mwyn i ni eu helpu, neu hyd yn oed os oes rhywun awydd sgwrs – rydyn ni yma i helpu.”

Bydd y cwsmeriaid yn gallu siarad gyda’r timau o 10am tan 4pm bob dydd yn y lleoliadau hyn:

•Dydd Mercher 13 Chwefror, Sgwâr y Frenhines, Wrecsam
•Dydd Iau 14 Chwefror, Canolfan Gymunedol Tŷ Pawb, Stryt y Farchnad, Wrecsam LL13 8BY
•Dydd Gwener 15 Chwefror, Sgwâr y Frenhines, Wrecsam

Ychwanegodd Louise: “Mae gofalu am ein cwsmeriaid yn bwysig iawn i ni, ac mae ein timau wir yn edrych ymlaen i sgwrsio â phobl wyneb yn wyneb, felly dewch i chwilio amdanom ni i weld sut allwn ni helpu.

Peidiwch â phoeni os na allwch chi ddod ar y diwrnodau hynny, mae llwyth o wybodaeth ar eu gwefan.

Gallwch gofrestru i reoli eich cyfrif ar-lein, sy’n golygu y gallwch chi dalu, gosod debyd uniongyrchol, dweud eich bod wedi symud tŷ a llawer mwy, ddydd neu nos. Gallwch hefyd eu dilyn nhw ar Twitter @hdcymru neu fynd i’w tudalen Facebook i weld beth maen nhw’n ei wneud.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/admissions_nursery.htm”] YMGEISIWCH NAWR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol “Llawer i’w ddathlu” ar ôl adroddiad gwych i ysgol gynradd leol “Llawer i’w ddathlu” ar ôl adroddiad gwych i ysgol gynradd leol
Erthygl nesaf A483 B5373 Ffordd Gresffordd – ffordd ar gau ym mis Ebrill

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026
Horse Riders
Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion
Arall Pobl a lle
Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 21, 2026
Gwersyllt
Dan sylw: Rôl cynghorydd
Y cyngor
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

North Wales Police
Arall

Cefnogi Ymgyrch Spotlight sy’n canolbwyntio ar yrwyr ifanc

Medi 18, 2026
The Longest Yarn 2
ArallDigwyddiadau

Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!

Medi 15, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English