Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Lletygarwch Dan Do i ailagor wrth i’r sefyllfa wella – ond gadewch i ni gadw’n ddiogel
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Lletygarwch Dan Do i ailagor wrth i’r sefyllfa wella – ond gadewch i ni gadw’n ddiogel
Busnes ac addysgY cyngor

Lletygarwch Dan Do i ailagor wrth i’r sefyllfa wella – ond gadewch i ni gadw’n ddiogel

Diweddarwyd diwethaf: Mai 14, 2021 9:11 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham Lager in Japan
RHANNU

Mae’r ailagor hir ddisgwyliedig lletygarwch dan do wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ac wedi’i groesawu gan gwsmeriaid a busnesau ym mhobman.

Ond rydym i gyd yn ymwybodol nad yw Covid-19 wedi diflannu, mae’n dal yma a byddwn i gyd angen parhau i gymryd rhagofalon i sicrhau bod yr achosion yn parhau’n isel.

Dyna pam y bydd yna gamau diogelwch ar waith i chi fwynhau eich tafarn, caffi neu fwyty leol yn ddiogel.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Bydd disgwyl i chi ddarparu manylion cyswllt fel y gellir cysylltu â chi gan Profi, Olrhain a Diogelu os bydd yna unrhyw achosion positif mewn lleoliad y byddwch wedi ymweld ag ef.

Bydd yna hefyd gyfyngiad ar y nifer o bobl fydd yn cael cwrdd gyda’i gilydd. Cytunwyd y gall hyd at chwech o bobl gwrdd gyda’i gilydd dan do, yr un fath â’r awyr agored a bydd perchnogion busnes yn rheoli hyn yn ofalus i sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol rhwng byrddau.

Rydym hefyd yn gofyn i chi archebu cyn i chi fynd a rhoi sylw i unrhyw derfynau amser fydd gan leoliadau mewn grym fel uchafswm arhosiad o 2 awr. Mae’n bwysig iddynt sicrhau y gallant wasanaethu’r uchafswm o gwsmeriaid yn ddiogel.

Os ydych yn defnyddio cludiant cyhoeddus byddwch angen cadw pellter cymdeithasol a byddwch angen gwisgo masg wyneb. Mae hyn yn cynnwys tacsis felly gwnewch yn siŵr fod gennych un gyda chi bob amser.

Cwsmeriaid sy’n eistedd wrth fyrddau fydd yn cael eu gweini yn unig a bydd yna wasanaeth bwrdd i osgoi unrhyw giwio wrth y bariau.

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae hyn yn newyddion da iawn i lawer o fusnesau ar draws Wrecsam sydd wedi dioddef wythnosau a misoedd heb gwsmeriaid yn yr ymdrech i leihau lledaenu Covid-19.

“Maen nhw nawr yn haeddu ein cefnogaeth ond rydym angen cofio er mwyn cadw’n agored y bydd pawb angen meddwl am y camau diogelwch sydd ar waith a sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn i weithio gyda’n gilydd yn yr wythnosau i ddod.”

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r sefyllfa yn Wrecsam wedi gwella ac mae’r nifer o achosion positif, diolch byth, yn parhau’n isel. Mae Profi, Olrhain a Diogelu yn parhau ar gyfer ein diogelwch yn ogystal â’r llawer o gamau diogelwch yr ydym wedi dod i arfer iddynt fel gwisgo gorchudd wyneb, osgoi mannau prysur a rhoi sylw i hylendid dwylo.

“Wrth i ni edrych ymlaen at ddyfodol mwy disglair, cefnogwch fusnesau lleol wrth iddyn nhw ein cefnogi ni i gadw’n ddiogel drwy roi mesurau ar waith yn unol â rheoliadau’r Llywodraeth.”

Bydd Swyddogion Trwyddedu a Gorfodi yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i fonitro’r ailagor a byddant ar gael i roi cyngor fel bo’r angen ac ymateb i unrhyw bryderon gan aelodau o’r cyhoedd.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol climate change Cynllun Datgarboneiddio i fynd i’r Bwrdd Gweithredol
Erthygl nesaf Covid-19 Nodyn briffio Covid-19 – Cymru’n symud i lefel rhybudd dau ddydd Llun

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English