Llongyfarchiadau mawr i Glwb Peldroed Wrecsam ar sicrhau dyrchafiad i’r Bencampwriaeth!
Sicrhaodd y clwb trydydd dyrchafiad o’r bron gyda buddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Charlton penwythnos yma.
Dywedodd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam “Mae llwyddiant y clwb peldroed yn anhygoel, ac mae hwn yn foment mor bwysig i’r clwb ac i’r holl ddinas.”
“Mae’r llwyddiant ar y cae peldroed yn codi hyder yr holl gymuned, ac mae’r daith ryfeddol yma yn adnewyddu hyder cyffredinol Wrecsam.”
Hoffwn hefyd ddymuno pob lwc i dîm merched Wrecsam sydd yn chwarae yn rownd derfynol Cwpan Bute Energy Cymru heddiw. Gobeithio y bydd ail lwyddiant felly i Wrecsam y penwythnos yma!”
Ychwanegodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Beryl Blackmore “Am foment ffantastig!
“Mae Wrecsam wedi bod ar daith anhygoel dros y blynyddoedd diwethaf, a hoffwn ddiolch i berchnogion y clwb, Rob a Ryan am ei hymroddiad i’r clwb a’n dinas ni.
“Mae eu gwaith caled a’u gweledigaeth – ynghyd ag ymroddiad y rheolwr, swyddogion, chwaraewyr a chefnogwyr wedi talu ar ei ganfed, ac mae sicrhau trydydd dyrchafiad o’r bron yn wych!”