Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Llun hardd o Erddig yn ennill y lle olaf yng Nghystadleuaeth Calendr Rhyfeddodau Wrecsam 2018
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 19-20 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Llun hardd o Erddig yn ennill y lle olaf yng Nghystadleuaeth Calendr Rhyfeddodau Wrecsam 2018
ArallPobl a lle

Llun hardd o Erddig yn ennill y lle olaf yng Nghystadleuaeth Calendr Rhyfeddodau Wrecsam 2018

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 3, 2017 2:40 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Llun hardd o Erddig yn ennill y lle olaf yng Nghystadleuaeth Calendr Rhyfeddodau Wrecsam 2018
RHANNU

Wel dyna ni, mae’r chwilio ar ben ac rydym wedi dod o hyd i’n 12 llun o Ryfeddodau Wrecsam ar gyfer Calendr 2018.

Cynnwys
  • “Mae ‘na berlau bach hardd yn Wrecsam”
  • “Bydd copïau ar gael yn y Farchnad Fictoraidd”
  • Y lluniau buddugol i gyd – Ionawr i Ragfyr!

Llun anhygoel o Neuadd Erddig mewn lliwiau hydrefol ysblennydd gyda buwch brydferth yn y blaendir (rhywbeth na chawsom o’r blaen!) sydd wedi dod i’r brig ac wedi ennill lle yn y calendr ar gyfer mis Hydref, sef mis olaf y gystadleuaeth. Mae’r llun yn dangos ochr hanesyddol a gwledig Wrecsam a sut y mae’r ddwy elfen wedi byw ochr yn ochr ers blynyddoedd lawer.

“Mae ‘na berlau bach hardd yn Wrecsam”

Yr enillydd unwaith eto yw Geraint Roberts sydd, coeliwch neu beidio, wedi ennill 5 gwaith yn y gystadleuaeth hon! Mae ffotograffau Geraint yn dangos yn glir ei fod yn adnabod Wrecsam yn dda a bod yma berlau bach hardd i’r ymwelydd eu darganfod, sydd yn un o’r rhesymau pam yr enwebwyd Gogledd Cymru’n bedwerydd yn y rhestr o’r ardaloedd gorau yn y byd i ymweld â nhw.

DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

Meddai Geraint: “Mae gan Wrecsam bensaernïaeth hyfryd, nodedig; safleoedd o harddwch naturiol a threftadaeth ddiwydiannol sy’n ei wneud yn lle unigryw yng Ngogledd Cymru. Rydw i wedi mwynhau cymryd y lluniau a byddaf yn dal ati i dynnu lluniau a chael pleser mawr o ymweld â’r mannau hyn.

Hoffai’r trefnwyr ddweud diolch o galon i bawb a gymerodd ran ac a rannodd eu lluniau gwych o Wrecsam.

Cyn gynted ag y bydd y calendrau’n barod, bydd yr enillwyr yn cael gwahoddiad i Neuadd y Dref lle bydd Maer Wrecsam yn diolch iddyn nhw’n bersonol am eu hamser a’u hymdrech ac yn cyflwyno eu copi personol o Galendr Rhyfeddodau Wrecsam 2018 iddyn nhw.

“Bydd copïau ar gael yn y Farchnad Fictoraidd”

Mae’r Calendr eisoes gyda’n dylunwyr a bydd ar werth yn ddiweddarach y mis hwn. Byddwn yn rhoi rhagor o fanylion ynglŷn â lle y gallwch brynu’r calendr cyn bo hir, ond rhag ofn na welwch chi’r manylion, bydd copïau ar gael ym Marchnad Fictoraidd Wrecsam ar 7 Rhagfyr.

Bydd yr holl elw o werthu’r calendr yn mynd tuag at yr elusennau a ddewiswyd gan y Maer.

Y lluniau buddugol i gyd – Ionawr i Ragfyr!

Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=453&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DYWEDWCH EICH DWEUD[/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://newyddion.wrecsam.gov.uk”]GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Halloween Plas Pentwyn Wrexham Plas Pentwyn yn gwneud Calan Gaeaf yn Lwyddiant Arswydus!
Erthygl nesaf Ty Pawb Dyfarnu cytundeb cyffrous i Focus Wales

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English