Wel dyna ni, mae’r chwilio ar ben ac rydym wedi dod o hyd i’n 12 llun o Ryfeddodau Wrecsam ar gyfer Calendr 2018.
Llun anhygoel o Neuadd Erddig mewn lliwiau hydrefol ysblennydd gyda buwch brydferth yn y blaendir (rhywbeth na chawsom o’r blaen!) sydd wedi dod i’r brig ac wedi ennill lle yn y calendr ar gyfer mis Hydref, sef mis olaf y gystadleuaeth. Mae’r llun yn dangos ochr hanesyddol a gwledig Wrecsam a sut y mae’r ddwy elfen wedi byw ochr yn ochr ers blynyddoedd lawer.
“Mae ‘na berlau bach hardd yn Wrecsam”
Yr enillydd unwaith eto yw Geraint Roberts sydd, coeliwch neu beidio, wedi ennill 5 gwaith yn y gystadleuaeth hon! Mae ffotograffau Geraint yn dangos yn glir ei fod yn adnabod Wrecsam yn dda a bod yma berlau bach hardd i’r ymwelydd eu darganfod, sydd yn un o’r rhesymau pam yr enwebwyd Gogledd Cymru’n bedwerydd yn y rhestr o’r ardaloedd gorau yn y byd i ymweld â nhw.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Meddai Geraint: “Mae gan Wrecsam bensaernïaeth hyfryd, nodedig; safleoedd o harddwch naturiol a threftadaeth ddiwydiannol sy’n ei wneud yn lle unigryw yng Ngogledd Cymru. Rydw i wedi mwynhau cymryd y lluniau a byddaf yn dal ati i dynnu lluniau a chael pleser mawr o ymweld â’r mannau hyn.
Hoffai’r trefnwyr ddweud diolch o galon i bawb a gymerodd ran ac a rannodd eu lluniau gwych o Wrecsam.
Cyn gynted ag y bydd y calendrau’n barod, bydd yr enillwyr yn cael gwahoddiad i Neuadd y Dref lle bydd Maer Wrecsam yn diolch iddyn nhw’n bersonol am eu hamser a’u hymdrech ac yn cyflwyno eu copi personol o Galendr Rhyfeddodau Wrecsam 2018 iddyn nhw.
“Bydd copïau ar gael yn y Farchnad Fictoraidd”
Mae’r Calendr eisoes gyda’n dylunwyr a bydd ar werth yn ddiweddarach y mis hwn. Byddwn yn rhoi rhagor o fanylion ynglŷn â lle y gallwch brynu’r calendr cyn bo hir, ond rhag ofn na welwch chi’r manylion, bydd copïau ar gael ym Marchnad Fictoraidd Wrecsam ar 7 Rhagfyr.
Bydd yr holl elw o werthu’r calendr yn mynd tuag at yr elusennau a ddewiswyd gan y Maer.
Y lluniau buddugol i gyd – Ionawr i Ragfyr!
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU