Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Llunio dyfodol ein llyfrgelloedd – peidiwch â cholli’r cyfle i ddweud eich dweud
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Llunio dyfodol ein llyfrgelloedd – peidiwch â cholli’r cyfle i ddweud eich dweud
Pobl a lleY cyngor

Llunio dyfodol ein llyfrgelloedd – peidiwch â cholli’r cyfle i ddweud eich dweud

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 31, 2019 9:52 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Llunio dyfodol ein llyfrgelloedd - peidiwch â cholli'r cyfle i ddweud eich dweud
RHANNU

Hyd yma mae’r ymateb i’n hymgynghoriad ar Lunio Dyfodol Gwasanaethau Llyfrgell Wrecsam wedi bod yn gryf.

Ond rydym yn annog unrhyw un nad ydynt eto wedi cael y cyfle i gyflwyno eu safbwyntiau i ddweud eu dweud.

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, gallwch gwblhau arolwg yr ymgynghoriad ar-lein, neu dewch i un o’r sioeau teithiol lle cewch gyfle i gyflwyno eich cwestiynau i’r swyddogion wyneb yn wyneb.

OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…

Rydym wedi cynnal nifer o sioeau teithiol ymhob un o’n llyfrgelloedd cyhoeddus, yn ogystal ag mewn lleoliadau cymunedol eraill, ac mae dros 350 o bobl wedi mynychu hyd yma.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Sadwrn 30 Tachwedd.

Mae gennym fwy o sioeau teithiol ar y ffordd yn y lleoliadau hyn:

  • Canolfan Glyn Ceiriog, Glyn Ceiriog – 10am tan hanner dydd. Dydd Mercher Tachwedd 6.
  • Tŷ Pawb, Wrecsam – 11am tan 2pm. Dydd Iau Tachwedd 7.
  • Canolfan Fenter Brymbo – 10am tan hanner dydd. Dydd Llun Tachwedd 11.
  • Canolfan Hamdden Plas Madoc, Plas Madoc – 5pm tan 7pm. Dydd Mawrth Tachwedd 12.
  • Llyfrgell Deithiol, Rhostyllen – 2pm tan 4pm. Dydd Iau, Tachwedd 14.
  • Llyfrgell Deithiol Holt – 9.45am tan hanner dydd. Dydd Gwener, Tachwedd 15.
  • Partneriaeth Parc Caia, Parc Caia – 11am tan 1pm. Dydd Iau, Tachwedd 15.

Dywedodd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol dros Lyfrgelloedd: “Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn wynebu’r heriau ariannol caletaf o fewn cof ac mae gennym ni benderfyniadau anodd i’w gwneud.

“Mae preswylwyr wedi bod yn rhoi ein cynigion o dan y chwyddwydr ac mae swyddogion y cyngor wedi gwerthfawrogi’r cyfle i gwrdd â phobl wyneb yn wyneb i egluro ein syniadau a’n hawgrymiadau.

“Os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod darllenwch ddogfen Llunio Dyfodol Gwasanaethau Llyfrgell Wrecsam a sicrhewch eich bod yn manteisio ar y cyfle i ddweud eich dweud.”

Dywedodd Shan Cooper, yr Arweinydd Llyfrgelloedd: “Mae Llyfrgelloedd Cyhoeddus yn bwysig, felly mae’n hanfodol ein bod yn clywed barn cynifer o bobl leol ag sy’n bosib.

“Rwyf wrth fy modd fod cynifer wedi llenwi’r ffurflenni ymgynghoriad ac wedi dod i’n cyfarfodydd, ond mae yna amser o hyd i’r rhai hynny nad ydynt eto wedi cael y cyfle i ddweud eu dweud.

“Rwy’n annog cynifer o bobl â phosib i fynd arlein neu godi copi papur o bapur yr ymgynghoriad o’u llyfrgell leol a rhoi gwybod i ni beth yw eu barn.”

Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/arolwg/977″] DWEUD EICH DWEUD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae Alwen Williams wedi cael ei phenodi fel Cyfarwyddwr Rhaglen Bargen Dwf Gogledd Cymru Mae Alwen Williams wedi cael ei phenodi fel Cyfarwyddwr Rhaglen Bargen Dwf Gogledd Cymru
Erthygl nesaf Bus pass renewal at your library Adnewyddu tocynnau bws. Darganfyddwch sut y gallwch chi helpu

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Medi 21, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref

Medi 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English