O ddydd Mawrth 4 Mai bydd llyfrgelloedd cangen Brynte, Y Waun, Gwersyllt a Rhos yn ailagor i bori, benthyg a dychwelyd llyfrau trwy apwyntiad yn unig.
Os hoffech gael y cyfle i ymweld â’r llyfrgell a dewis eich llyfrau eich hun, yna ffoniwch y llyfrgelloedd i wneud apwyntiad.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Bydd y system Archebu a Chasglu yn parhau i weithredu ar gyfer cwsmeriaid nad ydynt am ymweld â’r llyfrgell ar hyn o bryd. Diogelwch ein staff a’n cwsmeriaid yw ein blaenoriaeth ac rydym yn dilyn arweiniad Llywodraeth Cymru ar sut i reoli ymweliadau.
Bydd yr holl lyfrau a ddychwelir i’r llyfrgell yn parhau i gael eu rhoi mewn cwarantîn am 72 awr. Bydd llyfrgelloedd cangen eraill yn ailagor i bori, benthyg a dychwelyd dros yr wythnosau nesaf.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF