Paratowch eich ffyn hud! Mae Noson Lyfrau Harry Potter, noson fwyaf hudolus y flwyddyn, yn dychwelyd ddydd Iau, 1 Chwefror 2018.
Gwahoddir darllenwyr o bob oedran i ddathlu campweithiau J.K.Rowling – a rhannu hud a hyfrydwch y gyfres anhygoel â darllenwyr ifanc, sydd ddim eto wedi cael cyfle i ddarllen y llyfrau bythgofiadwy hyn.
Cynhelir noson i ddathlu hoff ddewin pawb, Harry Potter, yn Llyfrgell Wrecsam ddydd Iau 1 Chwefror, rhwng 3 a 6pm! Y thema eleni yw “bwystfilod rhyfeddol”, felly dewch draw i ymweld â chwt Hagrid a chanfod rhai o greaduriaid mwyaf diddorol J.K.Rowling yn ein helfa drysor. Hefyd, mae cyfle i chi ennill ffon hud a chymryd rhan mewn gweithgareddau a chwis ar thema Harry Potter.
Bydd Waterstones yn y llyfrgell yn gwerthu nwyddau Harry Potter, a bydd darlleniadau o’r gyfres drwy’r prynhawn. Cewch gwrdd â’r Het Ddidoli a chewch wybod eich enw dewinol ac ym mha lys Hogwarts ydych chi’n perthyn iddo.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Y digwyddiad Harry Potter hwn yn Llyfrgell Wrecsam fydd y gorau eto! Dewch draw i ddathlu byd hudolus Harry Potter. Mynychodd dros 200 o bobl y digwyddiad hwn y llynedd, felly peidiwch â cholli’r cyfle.”
Mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb, ond dylai plant dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Nid yw gwisgo i fyny yn hanfodol ond hoffem eich annog i roi cynnig arni!
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Emily Ashworth ar 01978 292090
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT