Rydym yn gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus i gefnogi Gwanwyn Glân Cymru.
Gyda’n gilydd rydym yn galw ar unigolion, anheddau, ysgolion a grwpiau cymunedol ffurfiol i lanhau strydoedd, parciau neu draethau lleol rhwng 28 Mai a 13 Mehefin.
Mae mwy na 200 o achosion o lanhau wedi eu cofrestru ar draws Cymru ar gyfer Gwanwyn Glân Cymru sy’n rhan o Caru Cymru – y fenter fwyaf erioed i ddileu sbwriel a gwastraff.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Mae Caru Cymru wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae Gwanwyn Glân Cymru hefyd yn rhan o Gwanwyn Glân Prydain Fawr eleni. Am y tro cyntaf erioed gofynnir i wirfoddolwyr i wneud addewid sawl munud y byddan nhw’n ei dreulio yn glanhau eu hardal leol. Bydd hynny’n cael ei drawsnewid yn filltiroedd a’i ychwanegu i gyfanswm y DU. Y nod yw cyd-gerdded miliwn milltir.
I wneud addewid o’r amser yr ydych wedi’i dreulio ar Gwanwyn Glân Cymru ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus.
Meddai Aelod Arweiniol dros Yr Amgylchedd a Chludiant, “Rydym i gyd eisiau bod yn rhan o amgylchedd dymunol a glân a gallwn i gyd chwarae ein rhan drwy arwyddo i fyny i’r ymgyrch Gymru gyfan hon. Helpwch ni i gadw Wrecsam yn daclus.”
Meddai Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, Lesley Jones:
“Yn y ddeuddeg mis diwethaf mae ein gofod awyr agored wedi bod yn bwysicach i ni fwy nag erioed. Maen nhw wedi bod yn lloches yn ystod amseroedd heriol a rhwng 28 Mai a 13 Mehefin 2021 rydym yn galw ar ein cymuned o arwyr sbwriel i ymuno â ni ac i ddangos ychydig o gariad i’r llefydd arbennig hynny sydd wedi ein helpu ni drwy’r cyfnod clo.”
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF