Mae gwasanaeth Archifau Wrecsam yn symud i gartref newydd sbon yn Llyfrgell Wrecsam.
Byddwn yn rhannu rhagor o fanylion yn fuan iawn. Yn y cyfamser, rydym yn edrych i wella’r Gwasanaeth Archifau ac yn gofyn i chi gyfrannu drwy gwblhau arolwg.
Mae Archifau Wrecsam yn cadw cofnodion yn ymwneud â hanes Bwrdeistref Sirol Wrecsam ers ei chreu yn 1996 a chofnodion yn ymwneud â’r ardal pan yr oedd yn rhan o hen siroedd Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Mae’r gwasanaeth yn mynd ati’n weithredol i gasglu a chadw cofnodion hanesyddol ac yn sicrhau eu bod ar gael i’r cyhoedd at ddibenion ymchwil. Rydym yn hapus i ychwanegu cofnodion at y casgliadau, sy’n ymwneud â hanes y Fwrdeistref Sirol.
Mae’r cofnodion yr ydym yn eu cadw yn cynnwys mapiau a chynlluniau, ffotograffau, papurau newydd, pamffledi a chasgliadau busnes a theulu. Rydym hefyd yn cadw casgliad mawr o lyfrau llyfrgell astudiaethau lleol yn ogystal â darparu mynediad i’r rhyngrwyd i ystod eang o ffynonellau hanes lleol a hanes teulu.
Rydym yn gwerthfawrogi eich sylwadau a chânt eu defnyddio i lywio penderfyniadau ar ddatblygiadau’r gwasanaeth yn y dyfodol, ac mewn ceisiadau am gyllid i wella’r Gwasanaeth Archifau yn y tymor hir.
Mwy o gynnydd ar gyfer ‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam
Mae Amgueddfa Wrecsam bellach ar gau i’r cyhoedd fel y gellir ailddatblygu’r adeilad yn ‘Amgueddfa Dau Hanner’ – amgueddfa newydd sbon i Wrecsam ochr yn ochr ag Amgueddfa Bêl-droed i Gymru.
Gweler gwefan yr amgueddfa am ragor o wybodaeth am brosiect ailddatblygu’r amgueddfa