Mae Ras Terry Fox yn dychwelyd i Wrecsam i godi arian ar gyfer y Sefydliad Ymchwil Canser.
Dyddiad: 5 Hydref, 2025
Amser: 12-3pm
Lleoliad: Parc Bellevue, Wrecsam
Mae Ras Terry Fox yn ras anghystadleuol sy’n rhad ac am ddim i gymryd rhan ynddi ac sy’n agored i bawb ac rydych chi’n gallu rhedeg, beicio neu gerdded 2.5km neu 5km.
Mae’r ras eiconig hon yn cael ei gynnal ledled y byd, gan godi cannoedd o filiynau o bunnoedd ar gyfer ymchwil canser, er cof am yr athletwr 22 oed o Ganada a fu farw yn anffodus ym 1981. Y llynedd, rhedodd 300 o bobl yn Wrecsam gan godi dros £13.500. Eleni… gadewch i ni ei gwneud yn fwy ac yn well!
Collodd Terry ei goes dde i ganser esgyrn prin, sef sarcoma osteogenig, ac roedd yn rhedeg gan ddefnyddio aelod prosthetig. Gwnaeth benawdau ledled y byd ym 1980 pan redodd 3,339 milltir ar draws Canada dros 143 diwrnod – oedd yn cyfateb i farathon y dydd ar gyfartaledd – i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer ymchwil canser. Bu’n rhaid i Terry roi’r gorau i’w ras pan ledaenodd y canser i’w ysgyfaint, a llai na blwyddyn yn ddiweddarach, bu farw. Ar ôl iddo orfod rhoi’r gorau iddi, ei eiriau oedd, “Hyd yn oed os nad ydw i’n ei orffen, mae angen i eraill barhau.”
Mae bellach yn cael ei ystyried yn arwr o Ganada a bob blwyddyn ers 1981, mae Ras Terry Fox yn cael ei chynnal mewn mwy na 60 o ddinasoedd ledled y byd ac wedi codi mwy na £500 miliwn ar gyfer ymchwil canser.
Cofrestrwch i redeg, beicio neu gerdded 2.5k neu 5k ddydd Sul, 5 Hydref. Mae Ras Terry Fox yn ras anghystadleuol sy’n rhad ac am ddim i gymryd rhan ynddi ac sy’n agored i bawb. Ei nod yw codi arian ar gyfer ymchwil canser ar gyfer y Sefydliad Ymchwil Canser yn enw gwir arwr o Ganada. Mae’r holl arian sy’n cael ei godi yn aros yn y DU ac yn cefnogi ymchwil yn y DU.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rwy’n falch iawn bod Sefydliad Terry Fox wedi dod â’r digwyddiad hwn yn ôl i Wrecsam. Ni yw’r unig le yng Nghymru sy’n cynnal y digwyddiad ac yn ogystal â bod yn ddiwrnod pleserus yn un o barciau deniadol Wrecsam, bydd yn codi arian ar gyfer ymchwil canser yn y DU.”
Mae’r Athro Chris Bakal yn gennad i Gymdeithas Terry Fox y DU. Wedi’i eni yng Nghanada, ond bellach yn gweithio fel athro morffodynameg canser yn y Sefydliad Ymchwil Canser yn Llundain, dywedodd: “Wrth ddilyn taith Terry wrth i mi dyfu i fyny mewn tref fach yng Nghanada, fe wnaeth fy ysbrydoli i ddod yn ymchwilydd canser, ac mae ei ddyfalbarhad a’i ymroddiad yn gyrru ein gwaith yn y labordy.
“Dangosodd Terry i mi hefyd y gallwn ni i gyd wneud rhywbeth yn y frwydr yn erbyn canser. Mae pob cam rydyn ni’n ei wneud yn Ras Terry Fox yn mynd â ni ychydig yn agosach at guro’r clefyd hwn trwy gefnogi ymchwil canser arloesol.”
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru i gymryd rhan trwy ymweld â thudalen we’r digwyddiad.
Pwy oedd Terry Fox?
Beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi’n cymryd rhan yn Ras Terry Fox…
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.