Mae enillydd mis Awst cystadleuaeth Calendr Rhyfeddodau Wrecsam 2018 wedi’i gyhoeddi fel Steve Harvey o Fangor-Is-y-Coed.
Barnwyd llun Steve o’r bont dros gamlas Llangollen y tu allan i’r Waun y gorau o’r holl luniau a gafwyd, ac roedd y beirniaid unwaith eto wedi’u plesio gydag ansawdd y ceisiadau.
Mae Steve yn rhoi’r disgrifiad difyr, “Pwffian mynd ar Gamlas Llangollen / Chugging along the Llangollen Canal” i’w lun, a dyma’n union oedd gwyliau llawer o bobl ym mis Awst.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU
Meddai Steve:
“Rwy’n falch iawn fy mod wedi ennill cystadleuaeth llun mis Awst. Mae’r gamlas yn lle hyfryd i dynnu lluniau ac mae’r dirwedd ysblennydd o’i hamgylch yn fy syfrdanu yn aml. Mae gan Wrecsam “berlau bach” rhyfeddol a dylen ni i gyd fod yn ddiolchgar ein bod yn byw mewn ardal mor naturiol hardd.”
Dim ond dau fis sydd ar ôl yn y gystadleuaeth bellach, felly os ydych yn ffotograffydd amatur gyda llygad am berl bach eich hun, gallwch roi cynnig ar gystadleuaeth calendr mis Medi drwy anfon eich lluniau at calendar@wrexham.gov.uk.
“Gogledd Cymru y bedwaredd yn y byd”
Lansiwyd Cystadleuaeth Calendr Rhyfeddodau Wrecsam 2018 ddechrau mis Tachwedd yn dilyn y newyddion bod Gogledd Cymru yn y bedwaredd yn y byd o ran yr ardaloedd i ymweld â nhw. Ar y pryd, roedd staff yn credu ei bod yn deg i Wrecsam ddathlu ei lle yn y byd gyda chofnod ar ffurf lluniau o Wrecsam drwy gydol y flwyddyn.
Bydd y lluniau buddugol i gyd i’w gweld yng nghalendr Rhyfeddodau Wrecsam 2018.
Nid oes gwobr i’r enillwyr, ond bydd pob un o’r 12 ohonynt yn cael copïau o galendr Rhyfeddodau Wrecsam 2018 pan fydd yn cael ei argraffu fis Tachwedd 2017, gyda’u llun a’u henw oddi tano.
Bydd yr holl elw o werthu’r calendr yn mynd tuag at yr elusennau a ddewisir gan y Maer. Gall y lluniau fod o unrhyw le yn y fwrdeistref sirol sydd wedi’u tynnu yn ystod mis Medi ac mae amodau a thelerau i’r gystadleuaeth.
Dylid cyflwyno’r lluniau drwy e-bost, gwell yw anfon rhai eglurder llawn, at calendar@wrexham.gov.uk.
Mae rhagor o wybodaeth ac amodau a thelerau ar gael ar wefan y Cyngor ar www.wrecsam.gov.uk.
Gallwch weld yr enillwyr blaenorol yma:
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau
COFRESTRWCH FI