Mae dwy ganofan diwylliant poblogaidd yng Ngogledd Cymru wedi cyhoeddi y byddant yn cydweithio yn ystod 2019.
Bydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a Tŷ Pawb yn Wrecsam yn cydweithio ar gyfer cyfres o berfformiadau byw a fydd yn ceisio dathlu’r gorau o’n golygfa gelfyddydol a diwylliannol leol.
Bydd y cyntaf o’r perfformiadau arbennig hyn yn cael ei gynnal yng ngwyl penblwydd cyntaf Tŷ Pawb – Dydd Llun 2 ar Ddydd Llun y Pasg Ebrill 22.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Cyfuniad perffaith
Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi bod yn diddanu pobl sy’n hoff o gerddoriaeth am dros 70 mlynedd.
Bob mis Gorffennaf mae miloedd o bobl yn heidio i’r dref hardd ar yr Afon Dyfrdwy i weld perfformwyr o bob cwr o’r byd ym Mhafiliwn eiconig yr Eisteddfod.
Mae’r rhestr o artistiaid enwog sydd wedi perfformio yn y gorffennol yn cynnwys Bryn Terfel, Katherine Jenkins, Nigel Kennedy, Elaine Paige, Michael Ball a Pavarotti.
Mae Tŷ Pawb yn Wrecsam eisoes wedi gwneud marc ei hun ar yr olygfa ddiwylliant cenedlaethol, er mai dim ond am flwyddyn mae wedi bod ar agor.
Yn ogystal â dangos arddangosfeydd sydd wedi cynnwys enillwyr y Wobr Tuner, megis Grayson Perry a Damien Hirst, mae Tŷ Pawb hefyd wedi bod yn lleoliad ar gyfer pob math o ddigwyddiadau cerddoriaeth poblogaidd, gan gynnwys y gyfres gyngherddau amser cinio wythnosol sy’n denu cynulleidfaoedd mawr yn rheolaidd hefo perfformwyr lleol fel Elias Ackerley, a cyrhaeddodd rownd derfynol Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC.
Mae Tŷ Pawb hefyd yn un o’r prif leoliadau ar gyfer gŵyl Focus Wales, sydd wedi derbyn clod rhyngwladol.
Perfformiadau arbennig wedi’u cynllunio
Dywedodd Cyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb, Jo Marsh: “Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio gyda gŵyl mor fawreddog.
“Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yw un o’r digwyddiadau mwyaf ar galendr diwylliannol Gogledd Cymru. Bydd y bartneriaeth yn golygu y bydd rhai perfformwyr o’r Eisteddfod yn gallu dod yma i Tŷ Pawb i’n cynulleidfaoedd lleol eu mwynhau.
“Byddwn hefyd yn anfon artistiaid o Wrecsam i berfformio yn Llangollen yn ystod wythnos yr Eisteddfod.”
“Mae gennym gynlluniau i gynnal rhai digwyddiadau cydweithredol eraill drwy gydol 2019 a byddwn yn eu cyhoeddi’n fuan iawn.
“Mae’r bartneriaeth yn rhoi cyfle gwych i ni ddathlu’r olygfa gelfyddydol a diwylliannol lewyrchus sydd gennym yn y rhanbarth hwn o Ogledd Cymru ac annog cynulleidfaoedd newydd i ddod i gymryd rhan.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Eisteddfod Llangollen, Edward-Rhys Harry: “Mae gwreiddiau Eisteddfod Llangollen yn y gymuned leol ac rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Tŷ Pawb i ddod â neges yr Eisteddfod i ganol Wrecsam, ac hefyd i ddarparu cyfleoedd i artistiaid lleol berfformio yn yr Eisteddfod ac arddangos eu doniau ochr yn ochr â gweddill y byd ”
“Newyddion gwych i’n golygfa gelf leol”
Meddai’r Cyng Hugh Jones: “Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a Tŷ Pawb yn chwarae rôl allweddol o ran dathlu diwylliant Cymru a denu ymwelwyr i Ogledd Cymru felly mae’r bartneriaeth hon yn newyddion cyffrous iawn i’n sîn gelf a cherddoriaeth leol.
“Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r ddau dîm ac rwy’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn mynd allan ac yn mwynhau’r perfformiadau sy’n cael eu cynllunio fel rhan o’r cydweithio hwn.”
Dyddiadau ar gyfer eich dyddiadur
- Cynhelir y digwyddiad partneriaeth cyntaf yn ystod dathliad pen-blwydd cyntaf Tŷ Pawb – Dydd Llun 2 ar Ddydd Llun y Pasg Ebrill 22. Bydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn cyflwyno dau act i berfformio ar y diwrnod – Elan Catrin Parry a Wrexham One Love Choir. Cliciwch yma i ddarganfod mwy.
- Cynhelir Eisteddfod Ryngladol Llangollen o ddydd Llun, 1 Gorffennaf – dydd Sul, 7 Gorffennaf – mae tocynnau ar werth nawr! Dysgwch fwy am yr Eisteddfod yma
- Mae’r Fratellis a The Coral ymhlith y bandiau a fydd yn perfformio ar gyfer Llanfest eleni – cyngerdd undydd sy’n cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn wythnos yr Eisteddfod, Gorffennaf 7. Darganfyddwch fwy am Lanfest yma.
Prif lun (o’r chwith i’r dde): Morgan Thomas (Rheolwr Digwyddiadau Tŷ Pawb), Jo Marsh (Cyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb), Edward-Rhys Harry (Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Eisteddfod Llangollen), Elise Jackson (Swyddog Ymgysylltu Cymunedol Eisteddfod Llangollen)
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB