Mae un o’r gwrthrychau Rhufeinig mwyaf arwyddocaol a ddarganfuwyd yng Nghymru yn y blynyddoedd diweddar wedi cael ei ddarganfod ger Wrecsam!
Darganfu Rob Jones, sy’n ddatguddiwr metel, wrthrych metel mewn cae ger Yr Orsedd, ac ar ôl tyrchu’n ofalus datgelodd cornel o wrthrych gydag ysgrifen arno.
Rhoddodd Mr Jones, o Goedpoeth, Wrecsam, wybod i’r Swyddog Darganfyddiadau Lleol (GDd Cymru) ar gyfer y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy Cymru yn Amgueddfa Wrecsam. Bu archeolegwyr o’r Amgueddfa a’r Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys yn asesu’r hyn a ddarganfuwyd.
Roedd y gwrthrych yn ingot plwm mawr (oddeutu hanner metr o hyd, ac yn pwyso 63 cilogram). Roedd yr ‘ysgrifen’ yn arysgrif Lladin, gan gadarnhau ei fod yn Rhufeinig ac oddeutu 2,000 o flynyddoedd oed.
Roedd ecsbloetiaeth Prydain o adnoddau naturiol yn un o’r rhesymau a roddwyd gan awduron Rhufeinig, dros oresgyniad Prydain gan yr Ymerawdwr Claudius yn AD 43. Mae mwyn plwm neu alena yn cynnwys arian, yn ogystal â phlwm, ac roeddent yn nwyddau gwerthfawr i’r Rhufeiniaid. Mae llai na chant o’r ingotau plwm o’r math hwn yn wybyddus o byllau’r Prydain Rhufeinig. Mae’r darganfyddiad prin hwn hefyd yn arwyddocaol i archeolegwyr a haneswyr, oherwydd ei ddyddiad cynnar posibl, lleoliad y gwrthrych, ac oherwydd yr arysgrif unigryw.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Roedd plwm yn cael ei gloddio a’i brosesu mewn nifer o ardaloedd yn y dalaith newydd, gan gynnwys gogledd ddwyrain Cymru, lle mae safleoedd prosesu plwm wedi cael eu datgloddio ger y Fflint, o bosib y gwaith cloddio o Fynydd Halkyn gerllaw. Mae nifer o ingotau plwm gyda dyddiad ychydig yn ddiweddarach wedi cael eu darganfod yn y safleoedd hyn, yn aml wedi’u marcio gydag enw’r llwyth lleol o’r enw’r Deceangli.
Dywedodd Susie White, Swyddog Darganfyddiadau Lleol (GDd Cymru) “Awgrymwyd yn y gorffennol bod ecsbloetiaeth tebyg wedi digwydd yn ardal Wrecsam, o amgylch y Mwynglawdd, ac yn arbennig yn y Ffrith, lle mae safle Rhufeinig gwybyddus. Er nad oes tystiolaeth amlwg, oherwydd gweithgarwch cloddio mwy diweddar.
Nid ydym yn gwybod eto, lle mae’r ingot wedi dod, ac mae’n debyg na fyddwn fyth yn gwybod lle’r oedd yn mynd. Fodd bynnag, o ystyried safleoedd yr ingotau eraill gyda dyddiadau tebyg o Brydain a ddarganfuwyd, mae’n debyg ei fod yn mynd i Ewrop, neu hyd yn oed Rhufain ei hun. Gall y gwrthrych ddweud llawer wrthym ni am y cyfnod pwysig hwn yn ein gorffennol, cyfnod nad ydym yn gwybod llawer amdano yn y rhan hon o’r wlad.”
Mae’r arysgrif yn crybwyll Marcus Trebellius Maximus, a oedd yn lywodraethwr ar dalaith Britannia, o dan yr Ymerawdwr Nero o AD 63-69. Os yw hyn yn wir, mae’r darganfyddiad yn Yr Orsedd yn cynrychioli’r unig esiampl o arysgrif sy’n cynnwys ei enw sydd wedi cael ei ddarganfod yn y DU, ac un o’r ychydig rai sydd wedi cael eu darganfod o’r ymerodraeth ar y cyfan. Roedd Trebellius yn gyfrifol yn rhannol am ddod a sefydlogrwydd i Fritannia ar ôl gwrthryfel Boudica yn AD 60/1, er y cafodd ei orfodi allan o’r dalaith gan filwyr Rhufeinig a oedd yn anfodlon gyda phrinder y gweithgarwch milwrol o dan ei lywodraeth.
Mae ymysg un o’r arysgrif cynharaf sy’n cofnodi cipiad y Rhufeiniad o gyfoeth mwynol Prydain ac yn tystio ei ecsbloetiaeth cyflym yn dilyn lledaeniad pŵer Rhufeinig ar draws yr ynys. Mae darganfyddiad yr ingot yn rhagdybio bod gweithgarwch archwilio metelau, difeddu safleoedd cloddio a llafur, gorfodol a gwirfoddol, i gloddio a phrosesu mwynau llawn metel. Mae’r arysgrif hefyd yn dangos rheolaeth biwrocratig dros gynhyrchu metelau gwerthfawr.
Hoffai PAS Cymru ac Amgueddfa Wrecsam ganmol y darganfyddwr a’r perchennog tir am roi gwybod iddynt am y darganfyddiad ar unwaith, gan fod hyn wedi galluogi archeolegwyr i gofnodi’r lleoliad fel y gall mwy o wybodaeth gael ei ddarganfod am y gwrthrych.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol ar gyfer Pobl Cyngor Wrecsam, ‘Rwy’n falch o allu cyhoeddi bod yr amgueddfa wedi gallu cadw’r ingot, a hoffwn ddiolch i Gyngor Celfyddydau Lloegr/Cronfa Grant Prynu, Ymddiriedolaeth Headley a Ffrindiau Amgueddfeydd Wrecsam am eu cymorth i gaffael y gwrthrych. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl fel arall. Mae hyn yn golygu y gall yr ingot gael ei arddangos yn y dref sydd agosaf i’r lleoliad cafodd ei ddarganfod.”
Mae’r amgueddfa, ynghyd â Phrifysgol Caer yn gobeithio cyflawni gwaith archeolegol ar y safle cyn gynted â phosib ar ôl y pandemig i weld os gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth.
Mae Cynllun Hynafiaethau Cludadwy Cymru (PAS Cymru) yn cael ei ariannu gan Amgueddfa Cymru, MAALD a Cadw, ac yn annog pobl i adrodd am unrhyw eitemau archeolegol a ddarganfyddir gan ddatguddwyr metel ac aelodau eraill o’r cyhoedd. Mae miloedd o wrthrychau’n cael eu darganfod gan aelodau’r cyhoedd yng Nghymru bob blwyddyn, gan gynnwys 20-30 o eitemau sy’n cael ei nodi fel ‘Trysor’ gan grwneriaid drwy’r Ddeddf Trysorau 1996. Mae PAS Cymru yn gwneud cofnodion yn hygyrch i’r cyhoedd drwy gronfa ddata arlein, sy’n cynnwys gwybodaeth ar dros filiwn a hanner o wrthrychau (<a href=”https://finds.org.uk/database”>https://finds.org.uk/database</a> ).
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19