Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Darganfyddiad newydd yn rhoi goleuni ar Wrecsam yn oes y Rhufeiniaid.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Darganfyddiad newydd yn rhoi goleuni ar Wrecsam yn oes y Rhufeiniaid.
ArallBusnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Darganfyddiad newydd yn rhoi goleuni ar Wrecsam yn oes y Rhufeiniaid.

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 19, 2020 9:54 am
Rhannu
Darllen 7 funud
Darganfyddiad
RHANNU

Mae un o’r gwrthrychau Rhufeinig mwyaf arwyddocaol a ddarganfuwyd yng Nghymru yn y blynyddoedd diweddar wedi cael ei ddarganfod ger Wrecsam!

Darganfu Rob Jones, sy’n ddatguddiwr metel, wrthrych metel mewn cae ger Yr Orsedd, ac ar ôl tyrchu’n ofalus datgelodd cornel o wrthrych gydag ysgrifen arno.

Rhoddodd Mr Jones, o Goedpoeth, Wrecsam, wybod i’r Swyddog Darganfyddiadau Lleol (GDd Cymru) ar gyfer y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy Cymru yn Amgueddfa Wrecsam. Bu archeolegwyr o’r Amgueddfa a’r Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys yn asesu’r hyn a ddarganfuwyd.

Roedd y gwrthrych yn ingot plwm mawr (oddeutu hanner metr o hyd, ac yn pwyso 63 cilogram). Roedd yr ‘ysgrifen’ yn arysgrif Lladin, gan gadarnhau ei fod yn Rhufeinig ac oddeutu 2,000 o flynyddoedd oed.

Roedd ecsbloetiaeth Prydain o adnoddau naturiol yn un o’r rhesymau a roddwyd gan awduron Rhufeinig, dros oresgyniad Prydain gan yr Ymerawdwr Claudius yn AD 43. Mae mwyn plwm neu alena yn cynnwys arian, yn ogystal â phlwm, ac roeddent yn nwyddau gwerthfawr i’r Rhufeiniaid. Mae llai na chant o’r ingotau plwm o’r math hwn yn wybyddus o byllau’r Prydain Rhufeinig.  Mae’r darganfyddiad prin hwn hefyd yn arwyddocaol i archeolegwyr a haneswyr, oherwydd ei ddyddiad cynnar posibl, lleoliad y gwrthrych, ac oherwydd yr arysgrif unigryw.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Roedd plwm yn cael ei gloddio a’i brosesu mewn nifer o ardaloedd yn y dalaith newydd, gan gynnwys gogledd ddwyrain Cymru, lle mae safleoedd prosesu plwm wedi cael eu datgloddio ger y Fflint, o bosib y gwaith cloddio o Fynydd Halkyn gerllaw. Mae nifer o ingotau plwm gyda dyddiad ychydig yn ddiweddarach wedi cael eu darganfod yn y safleoedd hyn, yn aml wedi’u marcio gydag enw’r llwyth lleol o’r enw’r Deceangli.

Dywedodd Susie White, Swyddog Darganfyddiadau Lleol (GDd Cymru) “Awgrymwyd yn y gorffennol bod ecsbloetiaeth tebyg wedi digwydd yn ardal Wrecsam, o amgylch y Mwynglawdd, ac yn arbennig yn y Ffrith, lle mae safle Rhufeinig gwybyddus. Er nad oes tystiolaeth amlwg, oherwydd gweithgarwch cloddio mwy diweddar.

Nid ydym yn gwybod eto, lle mae’r ingot wedi dod, ac mae’n debyg na fyddwn fyth yn gwybod lle’r oedd yn mynd. Fodd bynnag, o ystyried safleoedd yr ingotau eraill gyda dyddiadau tebyg o Brydain a ddarganfuwyd, mae’n debyg ei fod yn mynd i Ewrop, neu hyd yn oed Rhufain ei hun.  Gall y gwrthrych ddweud llawer wrthym ni am y cyfnod pwysig hwn yn ein gorffennol, cyfnod nad ydym yn gwybod llawer amdano yn y rhan hon o’r wlad.”

Darganfyddiad
Darganfyddiad

Mae’r arysgrif yn crybwyll Marcus Trebellius Maximus, a oedd yn lywodraethwr ar dalaith Britannia, o dan yr Ymerawdwr Nero o AD 63-69. Os yw hyn yn wir, mae’r darganfyddiad yn Yr Orsedd yn cynrychioli’r unig esiampl o arysgrif sy’n cynnwys ei enw sydd wedi cael ei ddarganfod yn y DU, ac un o’r ychydig rai sydd wedi cael eu darganfod o’r ymerodraeth ar y cyfan.  Roedd Trebellius yn gyfrifol yn rhannol am ddod a sefydlogrwydd i Fritannia ar ôl gwrthryfel Boudica yn AD 60/1, er y cafodd ei orfodi allan o’r dalaith gan filwyr Rhufeinig a oedd yn anfodlon gyda phrinder y gweithgarwch milwrol o dan ei lywodraeth.

Mae ymysg un o’r arysgrif cynharaf sy’n cofnodi cipiad y Rhufeiniad o gyfoeth mwynol Prydain ac yn tystio ei ecsbloetiaeth cyflym yn dilyn lledaeniad pŵer Rhufeinig ar draws yr ynys. Mae darganfyddiad yr ingot yn rhagdybio bod gweithgarwch archwilio metelau, difeddu safleoedd cloddio a llafur, gorfodol a gwirfoddol, i gloddio a phrosesu mwynau llawn metel. Mae’r arysgrif hefyd yn dangos rheolaeth biwrocratig dros gynhyrchu metelau gwerthfawr.

Hoffai PAS Cymru ac Amgueddfa Wrecsam ganmol y darganfyddwr a’r perchennog tir am roi gwybod iddynt am y darganfyddiad ar unwaith, gan fod hyn wedi galluogi archeolegwyr i gofnodi’r lleoliad fel y gall mwy o wybodaeth gael ei ddarganfod am y gwrthrych.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol ar gyfer Pobl Cyngor Wrecsam, ‘Rwy’n falch o allu cyhoeddi bod yr amgueddfa wedi gallu cadw’r ingot, a hoffwn ddiolch i Gyngor Celfyddydau Lloegr/Cronfa Grant Prynu, Ymddiriedolaeth Headley a Ffrindiau Amgueddfeydd Wrecsam am eu cymorth i gaffael y gwrthrych. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl fel arall. Mae hyn yn golygu y gall yr ingot gael ei arddangos yn y dref sydd agosaf i’r lleoliad cafodd ei ddarganfod.”

Mae’r amgueddfa, ynghyd â Phrifysgol Caer yn gobeithio cyflawni gwaith archeolegol ar y safle cyn gynted â phosib ar ôl y pandemig i weld os gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth.

Mae Cynllun Hynafiaethau Cludadwy Cymru (PAS Cymru) yn cael ei ariannu gan Amgueddfa Cymru, MAALD a Cadw, ac yn annog pobl i adrodd am unrhyw eitemau archeolegol a ddarganfyddir gan ddatguddwyr metel ac aelodau eraill o’r cyhoedd. Mae miloedd o wrthrychau’n cael eu darganfod gan aelodau’r cyhoedd yng Nghymru bob blwyddyn, gan gynnwys 20-30 o eitemau sy’n cael ei nodi fel ‘Trysor’ gan grwneriaid drwy’r Ddeddf Trysorau 1996. Mae PAS Cymru yn gwneud cofnodion yn hygyrch i’r cyhoedd drwy gronfa ddata arlein, sy’n cynnwys gwybodaeth ar dros filiwn a hanner o wrthrychau (<a href=”https://finds.org.uk/database”>https://finds.org.uk/database</a> ).

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid-19 “Sut fydda’ i’n gwybod os bydd galwad gan rywun sy’n olrhain cysylltiadau yn ddilys?” Dilynwch y cyngor yma…
Erthygl nesaf Mae’n Bythefnos Ymwybyddiaeth Sgamiau, felly pa mor #YmwybodolOSgamiau ydych chi? Mae’n Bythefnos Ymwybyddiaeth Sgamiau, felly pa mor #YmwybodolOSgamiau ydych chi?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English