Yng Nghymru, mae tua 400,000 o bobl naill ai heb gofrestru i bleidleisio’n iawn yn eu cyfeiriad presennol neu heb gofrestru o gwbl.
Dros yr wythnosau diwethaf, fe ddylech fod wedi derbyn ffurflen neu lythyr oddi wrthym yn gofyn ichi gadarnhau eich manylion. Peidiwch â’i anwybyddu! Trwy ymateb, byddwch chi’n barod i bleidleisio pan ddaw hi’n amser etholiadau. Gelwir gwirio manylion fel hyn yn ganfasiad blynyddol.
Wrth i fwy a mwy o bobl yng Nghymru gael yr hawl i bleidleisio, mae’n bwysig gwneud yn siŵr nad ydych chi ymhlith y 400,000 o bobl hynny sydd heb gofrestru eto.
Meddai Ian Bancroft, Swyddog Cofrestru Etholiadol Cyngor Wrecsam: “Y canfasiad blynyddol yw ein ffordd ni o wneud yn siŵr bod y wybodaeth ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn gywir. Cadwch lygad am ohebiaeth gan Gyngor Wrecsam a dilynwch y cyfarwyddiadau i wneud yn siŵr na fyddwch chi’n colli’r cyfle i fwrw eich pleidlais yn yr etholiad nesaf.
“Os na fyddwch yn clywed gan y Cyngor, efallai nad ydych chi ar y gofrestr. Os hoffech chi gofrestru, y ffordd hawsaf yw mynd ar-lein i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.” Mae gennych tan 31 Ionawr i roi gwybod i ni os oes unrhyw beth wedi newid ar eich ffurflen.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.