Mae digonedd yn digwydd yn Nhŷ Pawb dros y penwythnos yma wrth i’r lleoliad baratoi ar gyfer gweithgareddau’r Hydref.
Mae eu penwythnos yn dechrau heno gyda cyfle i weld band lleol Blue Genes, sy’n dod â chriw o gerddorion a chyfansoddwyr talentog at ei gilydd i greu sioe theatr sy’n cynnwys rhai o artistiaid Americanaidd a Gwerin gorau’r DU. Gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion yma
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Bydd yn dechrau ddydd Sadwrn â Chlwb Celf Sadwrn rhwng 10am a 12pm. Mae’n addas i blant sydd rhwng 7 ac 11 oed, a bydd pris tocyn yn £6.00 y sesiwn (£4 i frodyr/chwiorydd).
“Llond Gwlad o Gorau”
Mae Tŷ Pawb hefyd yn un o leoliadau’r Ŵyl Strydoedd yn Canu, a bydd llond gwlad o gorau yn diddanu ymwelwyr yn dechrau am 11am gyda Bitesize Children, Bitesize Adults, Fireflies, Ysgol Bodhyfryd, Côr Clwyd, Kaboodle a Dragon Song i orffen y diwrnod am 3pm.
Bydd Sophia Leadhill yn peintio wynebau gyda thema Alys yng Ngwlad Hud rhwng 2pm a 5pm cyn i grŵp Theatr Ieuenctid District-14 berfformio addasiad rhyfedd a rhyfeddol o ‘Alys yng Ngwlad Hud,’ Lewis Carroll. Mae’r tocynnau ar gyfer dydd Sadwrn wedi gwerthu allan, ond mae yna docynnau ar gael ar gyfer eu perfformiad ddydd Sul. Cewch fwy o fanylion am hyn yn y man.
Ymunwch â ni yn Nhŷ Pawb ar gyfer nos Sadwrn WYTHNOS Y GLAS am noson o gerddoriaeth fyw gan Saving Violet, DJ byw, bwyd a diod yn ein neuadd fwyd, gemau yfed, bwth lluniau, argraffu crysau.t a mwy! Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach yma
“Arwerthiant Pen Bwrdd”
Os nad yw hynny’n ddigon i chi, mae gennym ddiwrnod llawn o weithgareddau ddydd Sul gan gychwyn ag Arwerthiant Pen Bwrdd rhwng 9am a 2pm. Cewch ddod draw i grwydro neu ddod â’ch bwrdd eich hun. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am hyn yma
Mae awr grefftau teulu rhwng 11am a 2pm, sy’n rhad ac am ddim i deuluoedd. Mae gennym thema crefft newydd bob wythnos.
Bydd y gwersi Cymraeg am ddim hynod boblogaidd yn cael eu cynnal rhwng 10am a 2pm, gellir darganfod mwy am hyn yma
Bydd perfformiad Alys yng Ngwlad Hud rhwng 2pm a 3pm, a hyd yma mae yna dal docynnau ar ôl ar gyfer y digwyddiad. Pris tocyn yw £5 a gellir eu prynu ar-lein https://www.the-learning-collective.com/shop.
“Ac yn olaf “
Byddwn yn lansio Mis Hanes Pobl Dduon, dathliad sy’n para mis ar draws Gymru o’r cyfraniadau a wnaed gan bobl o dras Affricanaidd yng Nghymru. Bydd cantorion a pherfformiadau arbennig gan Capoeira Mocambo & Bloco Sŵn, Lizzi£ Squad, Dawns Affricanaidd gyda Lisinayte Gomes Lopes/ Bawso a barddoniaeth gydag Ali Goolyad/Theatr Genedlaethol Cymru. Gallwch ddarllen mwy am hyn yma
Yn ogystal â’r digwyddiadau gwych hyn, mae cynigion arbennig ar fwyd yn y Neuadd Fwyd gyda llwyth o stondinau marchnad i chi grwydro o’u hamgylch – neu pham na ewch i gael golwg ar ychydig o anrhegion Nadolig cynnar!
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION