Wrexham arts hub

Pwy fydd yn mynd â hi – “Cartref”, “Oriel M” neu “Tŷ Pawb”?

Dyma’r tri enw posibl sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer cyfleuster celfyddydau a marchnad newydd gwerth £4.5 miliwn sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yng nghanol tref Wrecsam ac rydych chi’n cael eich gwahodd i bleidleisio dros eich hoff enw.

Cafodd yr enwau eu dewis yn dilyn gweithdy rhanddeiliaid fis diwethaf lle roedd cynrychiolwyr o bob rhan o’r sector Celfyddydau a Marchnadoedd yn Wrecsam yn bresennol.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Gallwch fynd i bleidleisio yn Cafe in the Corner yn Arcêd y De, Oriel Wrecsam ar Stryt Caer, Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Llyfrgell Wrecsam, Canolfan Groeso Wrecsam, Galw Wrecsam, Canolfannau Adnoddau Plas Pentwyn, Brynteg, Acton, Gwersyllt a Llai.

Bydd cyfle i bleidleisio hefyd yng Ngŵyl Stryd Wrecsam ar 29 Gorffennaf a’r Diwrnod Chwarae ar 2 Awst.

Rydym hefyd yn cynnal etholiad ar-lein.

“…cyfleuster unigryw a chyffrous…”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Diogelu’r Cyhoedd a Chymuned:

“Rydw i’n siŵr y bydd gan bawb ffefryn ac rydw i’n annog pawb i fynd a dweud pa un yw eu hoff enw. Dyna’r unig ffordd y gallwn gael enw i’r cyfleuster unigryw a chyffrous yma sy’n cynrychioli barn go iawn pobl Wrecsam.”

Daw’r cyfnod pleidleisio i ben ar y Diwrnod Chwarae a gynhelir ar 2 Awst a bydd y canlyniad yn cael ei adrodd yng nghyfarfod ein Bwrdd Gweithredol ym mis Medi.

Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dwedwch eich dweud a phleidleisiwch rŵan.

DWEUD EICH DWEUD GADEWCH I ERAILL BENDERFYNU