Mae’r blychau arbennig hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i breswylwyr mewn gofal.
Mae cartrefi gofal ar draws Wrecsam yn mwynhau rhyfeddodau’r blychau synhwyraidd a’r RemPods sydd wedi eu dylunio i helpu preswylwyr sy’n byw gyda dementia i wneud atgofion yn fwy byw, yn fwy manwl, emosiynol a phersonol.
Mae’r blychau a’r RemPods wedi eu dosbarthu i bob cartref gofal yn Wrecsam o ganlyniad i gyllid gan y Cynllun Gweithredu Dementia, sydd wedi ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru drwy’r tîm Comisiynu a Chontractau Gofal Cymdeithasol i Oedolion.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Beth yw RemPod?
Podiau atgofion yw RemPods sy’n helpu i drawsnewid unrhyw ofod gofal ac yn cynnig profiad therapiwtig sy’n tawelu unigolyn yn naturiol ac yn ei gwneud yn haws i bobl hŷn mewn gofal, yn arbennig y rhai gyda dementia i droi at atgofion o’u gorffennol, gan roi cysur a sylfaen iddynt.
Beth yw blwch synhwyraidd?
Mae’r blychau synhwyraidd yn darparu gweithgareddau sy’n cyfrannu at iechyd emosiynol a chorfforol pobl sy’n byw gyda dementia. Ymhlith yr eitemau sydd wedi eu cynnwys yn y blwch hudolus hwn mae chwistrellwyr ystafell, sy’n arogli fel gwahanol leoedd e.e. glan y môr, bingo anifeiliaid a phosau jig-so; byrddau tecstiliau gan gynnwys deunyddiau gwahanol i helpu i sbarduno atgofion, CDs gyda chardiau fflach a sŵn yn dangos hen ffotograffau a phaentio lluniau.
Gall blychau synhwyraidd a RemPods helpu i ddarparu cysylltiad rhwng darparwr gofal a’r unigolyn sy’n colli’r cof. Gall straeon gwych gael eu dwyn i gof, eu rhannu, eu mwynhau a’u croniclo.
“Mae wedi bod yn fodd o gychwyn sgwrs…”
Dywedodd un rheolwr Cartref Gofal fod y ddau beth wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar y ffordd y maent yn rhyngweithio gyda’u preswylwyr. “Mae wedi bod yn fodd o gychwyn sgwrs ac rydym wedi sylwi fod rhai preswylwyr sydd wedi bod yn dawedog mewn gweithgareddau blaenorol wedi mwynhau’r sesiynau ac wedi cymryd rhan llawer mwy mewn pethau.
Dywedodd Cydlynydd Gweithgareddau sy’n gweithio yn un o’r cartrefi gofal yn Wrecsam, “Dwi wedi canfod y blwch synhwyraidd i fod yn werthfawr iawn o ran sicrhau fod pobl yn ymgysylltu. Rydym wedi cael llawer o hwyl gyda’r paentio a’r posau. Mae teuluoedd wedi cael cymaint o syndod gweld yr aelod o’u teulu yn paentio pan maent yn ymweld mae wedi eu hannog i ymuno, gan droi ymweliad 10-15 munud yn amser gwerthfawr ac maent yn aros am gyfnod hirach.”
Mae’r RemPods wedi bod yn wych, mae pobl wedi ymuno yn y gweithgareddau ac maent wedi creu atgofion gwych i bobl.”
Daeth y syniad cychwynnol i ddarparu blychau synhwyraidd a RemPods i gartrefi gofal o Gyfarfod y Cydlynydd Gweithgareddau, a sefydlwyd yn 2015 mewn ymateb i adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn ‘Lle i’w Alw’n Gartref’ oedd yn nodi fod yna ddiffyg anogaeth gymdeithasol o fewn cartrefi gofal a all yn aml arwain at bobl hŷn yn dod yn encilgar, yn gorfforol ac emosiynol, sy’n cael effaith fawr ar eu hiechyd, eu lles ac ansawdd eu bywyd.
Caiff y cyfarfodydd hyn, a gaiff eu cynnal yn chwarterol, eu trefnu gan Gyngor Wrecsam ac maent yn cynnwys Cydlynwyr Gweithgareddau o gartrefi gofal a wardiau o fewn yr ysbyty a hefyd mae’n gwahodd cynrychiolwyr o sefydliadau partner e.e. y gymdeithas Alzheimer’s, Age Cymru, Coleg Cambria, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a llawer mwy i siarad am y gefnogaeth all gael ei ddarparu i gartrefi gofal.
Mae’r cyfarfodydd rheolaidd wedi profi i fod yn boblogaidd gyda staff, gan roi iddynt le i rannu arfer gorau a syniadau.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm Comisiynu:
commissioning@wrexham.gov.uk / 01978 292066
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION