Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Maent wedi cyrraedd…????
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd - sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd – sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Busnes ac addysg
Winter weather
Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26
Arall Y cyngor
wellbeing hub
Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr
Pobl a lle Y cyngor
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 8-9 Ionawr
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Maent wedi cyrraedd…????
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Maent wedi cyrraedd…????

Diweddarwyd diwethaf: 2021/03/02 at 6:14 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
week to go
RHANNU

Mae cyfreithiau newydd wedi cael eu cyflwyno i wneud mwy o leoedd yng Nghymru yn ddi-fwg.

Yn Wrecsam, mae ysmygu wedi cael ei wahardd ar diroedd ysgolion a meysydd chwarae ers peth amser, ond mae bellach yn erbyn y gyfraith yng Nghymru ac mae dirwy drom ynghlwm wrth y drosedd.

Mae’r cyfreithiau wedi cael eu cyflwyno ledled Cymru, gan ychwanegu at y gwaharddiad ar ysmygu a gyflwynwyd yn 2007 a bydd yn amddiffyn mwy o bobl rhag niweidiau mwg ail law ac yn helpu’r rheiny sy’n ceisio rhoi’r gorau iddi.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Bydd hyn yn golygu bod tiroedd ysgol a meysydd chwarae cyhoeddus, yn ogystal ag ardaloedd awyr agored mewn lleoliadau gofal dydd a gwarchod plant a thiroedd ysbytai, yn ddi-fwg.

Gallai unrhyw un sy’n cael ei ganfod yn torri’r gyfraith wynebu dirwy o £100.

Cymru yw’r rhan gyntaf o’r DU i wneud ysmygu yn anghyfreithlon yn yr ardaloedd hyn a thrwy wneud hyn bydd ysmygu yn cael ei weld fel rhywbeth llai normal ac yn lleihau’r siawns o blant a phobl ifanc yn dechrau ysmygu yn y lle cyntaf – gan achub bywydau yn y pen draw.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae Cyngor Wrecsam yn falch o groesawu’r gyfraith newydd hon gan Lywodraeth Cymru, sy’n atgyfnerthu llawer o’r gwaith caled yr ydym wedi bod yn ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau amgylcheddau mwy iach yn nifer o’n mannau cyhoeddus. Gwyddom pa niwed y gall ysmygu ei wneud i iechyd, felly edrychaf ymlaen at gael cefnogaeth y rheiny sy’n ymweld â’n meysydd chwarae a’r staff, rhieni, gwarcheidwaid ac ymwelwyr sy’n defnyddio ein hysgolion a’n lleoliadau gofal plant i sicrhau ein bod i gyd yn chwarae ein rhan i greu dyfodol mwy iach.”

Mae nifer o ysmygwyr eisoes wedi cael eu hysgogi i roi’r gorau i ysmygu oherwydd pandemig COVID-19 a’r gobaith yw y bydd y ddeddfwriaeth newydd hon yn annog hyd yn oed mwy i wneud hynny. Rhoi’r gorau i ysmygu gyda chefnogaeth yw’r ffordd orau o roi’r gorau iddi am byth.

Dywed Prif Weithredwr ASH Cymru, sefydliad sy’n ymgyrchu i gyflawni Cymru di-fwg, Suzanne Cass: “Mae’r rheiny sy’n cychwyn ysmygu cyn bod yn 16 oed ddwy waith mor debygol o barhau i ysmygu o’i gymharu â’r rheiny sy’n cychwyn ysmygu yn ddiweddarach, ac maent yn fwy tebygol o fod yn ysmygwyr trymach.

“Gwyddom o arolwg YouGov diweddaraf ASH Cymru bod 81% o ysmygwyr sy’n oedolion yng Nghymru wedi cael eu sigarét gyntaf pan oeddent yn 18 oed neu’n iau. Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn atal ein pobl ifanc heddiw rhag troi yn genhedlaeth o ysmygwyr yn y dyfodol.

“Gobeithiwn y bydd y ddeddfwriaeth hon yn paratoi’r ffordd ar gyfer gwneud mwy o ardaloedd cyhoeddus yng Nghymru yn rhai di-fwg.”

Gall y rheiny sy’n chwilio am help i roi’r gorau i ysmygu gael mynediad at wasanaeth cymorth am ddim y GIG Helpa Fi i Stopio ar 0800 085 2219 neu ewch i www.helpafiistopio.cymru am help a chymorth, gan gynnwys mynediad at feddyginiaeth am ddim i’ch helpu i roi’r gorau iddi.

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid-19 Nodyn briffio am Covid-19 – mae pethau’n gwella … ond nid ydym allan ohoni eto
Erthygl nesaf Nine Acre Field consultation Sgam: Rhybudd ynghylch negeseuon testun ynglŷn â grant Covid-19

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd - sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd – sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Busnes ac addysg Ionawr 9, 2026
Winter weather
Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26
Arall Y cyngor Ionawr 8, 2026
wellbeing hub
Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 8, 2026
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 8, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd - sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Busnes ac addysg

Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd – sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori

Ionawr 9, 2026
Winter weather
ArallY cyngor

Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26

Ionawr 8, 2026
wellbeing hub
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes

Ionawr 8, 2026
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Pobl a lleY cyngor

Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr

Ionawr 8, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English